Aberllefenni

Aberllefenni

Mae chwarel Aberllefenni wedi ei leoli ger gwythïen llechen fertigol sy’n croesi ceunant serth Llefenni cyn iddo agor allan i Ddyffryn Dulas, ym mynyddoedd De Meirionnydd.  Mae chwarelydda wedi digwydd ar y ddwy ochr, yn amlwg trwy’r tipiau gwastraff, inclêns mecanyddol, ac agorydd siambrau tal o ble ddaeth llechi'r ardal, ble maent yn agor i’r wyneb.

Mae chwarel Aberllefenni yn dangos dull nodweddiadol de Meirionnydd o weithio’r graig mewn gwythiennau fertigol trwy ddefnyddio lefelau a siambrau tal ysblennydd.  Fe astudiwyd y dulliau yma gan beirianwyr Ffrengig yn gweithio yn niwydiant llechi Dyffryn Loire.  Fe weithiwyd y chwarel ar ddwy ochr y dyffryn serth, gan ddefnyddio inclêns mecanyddol i gael mynediad i lefelau gwahanol.

Fe adeiladwyd y Felin oedd yn gwasanaethu Chwarel Aberllefenni yn yr 1860au cynnar, ac wedyn ei ymestyn yn hwyrach.  Roedd yn cynnwys 20 o lifiau bwrdd ac yn cael ei bweru gan ddwy olwyn ddŵr mawr bob pen i’r adeilad, yn cael ei fwydo gan sianeli dŵr o’r gronfa ddŵr gerbron.  Mae olion yr olwynion dŵr yn parhau mewn lle, o dan y llawr concrit.  Mae’r gronfa ddŵr yn darparu dŵr ar gyfer oeri a golchi yn y Felin sydd yn parhau mewn defnydd.

Mae pentref Aberllefenni yn cynnwys ‘Pensarn’, rhes o bedwar ar ddeg o dai teras yn dyddio o’r 1860au, capel wedi ei adeiladu yn wreiddiol yn 1839, ei ymestyn yn 1859 a’i ailadeiladu yn 1874, rhan o Blas Aberllefenni o’r ail ganrif ar bymtheg, a swyddfa chwarel a chlochdy oedd yn cael ei ddefnyddio i alw’r gweithwyr o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.