Blaenau Ffestiniog, Y Dwyryd, A Rheilffordd Ffestiniog

 Maenofferen5_C%20Llechwedd[1]

Blaenau Ffestiniog

Cafodd y chwareli o lechi y cyfnod Ordoficaidd ym mlaenau plwyf Ffestiniog eu hagor gyntaf gan chwarelwyr profiadol o chwarel Cilgwyn yn Nantlle o gwmpas 1760. Yn 1800 daeth William Turner yno o Ardal y Llynnoedd yn Lloegr i weithio chwarel Diffwys, a chyn  bo hir dechreuodd yr ardal ddenu buddsoddwyr. Ymhlith rhain oedd tirfeddianwyr lleol fel yr Oakeleys o Plas Tan y Bwlch a’r Arglwydd Newborough o Glynllifon; gwŷr busnes ddaeth i fyw i’r ardal fel yr Annibynnwr Samuel Holland o Lerpwl a theulu’r Greaves oedd yn fancwyr o Swydd Gaerwrangon; ac eraill o du allan i’r ardal yn arbennig felly yr Arglwydd Palmerston, y Prif Weinidog. 

Daeth y gweithlu o ardaloedd gwledig Gogledd Cymru. O fewn canrif roedd y tomenni gwastraff llechi a’u cysgod dros bentref chwarelyddol Blaenau Ffestiniog oedd yn prysur dyfu ar lethrau gwaelod y dyffryn. I gychwyn roedd y llechi yn cael eu cloddio mewn tyllau agored, ond mae gweithiennau Ffestiniog yn gorwedd ar ongl o tua 30⁰, felly erbyn blynyddoedd cynnar y 19eg ganrif nid oedd y dull yma yn talu wrth i’r twll fynd yn ddyfnach.

O ddechrau’r 19eg ganrif roedd y rhan fwyaf o’r llechi a’r rwbel yn cael eu cloddio o nifer o siambrau tanddaearol, a’u codi i’r wyneb ar inclêns mecanyddol. Adeiladwyd melinau stem- a- dŵr yn chwareli Ffestiniog o’r 1850au ymlaen er mwyn lleihau’r blociau garw o lechen cyn iddyn nhw gael eu hollti efo llaw i greu llechi ar gyfer toi. Cafodd llif gron Greaves, ddaeth yn gyffredin trwy’r diwydiant a’i allforio i chwareli ar gyfnadir Ewrop ei ddyfeisio yn chwarel Llechwedd.

Roedd ardal Ffestiniog yn flaengar iawn wrth wneud defnydd o ddŵr i greu trydan. Mae gorsaf hydro Edwardaidd yn gweithio yn chwarel Llechwedd ac yn werth ei gweld hyd heddiw. Er bod y rhan fwyaf o’r cloddio yn digwydd tan ddaear, mae maint y gwaith yn yr awyr agored yn nodwedd arbennig o’r diwydiant yn yr ardal.

Mae’r gweithfeydd yn amlwg iawn i deithwyr ar hyd yr A470 dros Fwlch Goginan. Mae nhw’n creu golygfeydd sydd yn cynnwys y tomenni llechi a’r inclêns a’r tirlun hanesyddol hyd at Trawsfynydd, y Rhinogydd a’r môr. Ar y llaw arall caiff teithwyr sydd yn cyrraedd Ffestiniog o ardal afon Glaslyn, ar hyd y ffordd neu’r rheilffordd, yn cael eu syfrdanu gan faint y tomenni sydd yn bwrw cysgod dros y dref a’r ffordd y mae’r llwybrau a’r inclêns yn creu cyswllt gweledol cryf rhwng tarddiad y llechi a’r dull o’u dosbarthu. Mae’r dulliau trafnidiaeth er mwyn cludo’r llechi hefyd yn nodweddion amlwg gan gynnwys y ffyrdd trol cynnar i’r ceioedd ar afon Dwyryd, a Rheilffordd Ffestiniog, agorwyd yn 1836.

Y Glaslyn a'r Ddwyryd

Mae’r dref ei hun wedi ei threfnu yn llawer mwy ffurfiol, o gwmpas sgwariau a strydoedd wedi eu cynllunio yn ofalus gyda chapeli mewn safleoedd amlwg. Mae’r tai yn dangos y newidiadau o’r gwledig i’r diwydiannol ac mae’n amlwg bod agor y rheilffordd wedi newid cymeriad pensaerniol y dref oedd yn prysur dyfu gan ddefnyddio coed, cerrig a bric wedi ei fewnforio.

Mae buddsoddiad gan uchelwyr ardal Ffestiniog i’w weld yn amwlg ym Mhlas Tan y Bwlch, catref teulu’r Oakeley, sydd i’w weld gerllaw gwely Rheilffordd Ffestiniog ger pentref Maentwrog oedd yn eiddo i’r stâd. Mae cymeriad y tŷ a’r gerddi presennol yn adlewyrchu ffasiwn y 19eg ganrif a’r elw gynhyrchwyd gan y chwareli. Mae’r Plas bellach yn ganolfan preswyl Parc Cenedlaethol Eryri ac yn cynnig cysiau ar archaeoleg a hanes y diwydiant llechi. Mae treftadaeth ddiwydianol a thwristiaeth antur ar gael yn chwarel Llechwedd y dyddiau yma.

Astudiaeth Cymeriad Blaenau Ffestiniog

Rheilffordd Ffestiniog a Porthmadog

Rheilffordd Ffestiniog

Mae Rheilffordd Ffestiniog ynddi ei hun yn gamp peirianyddol hynod iawn. Cafodd ei hadeiladu trwy gymorth a chyngor Robert Stephenson yn 1832-1836, a James Spooner a’i fab  Charles Easton Spooner. Newidiodd y traddodiad o ddefnyddio rheilffordd mwynol gul oedd yn cael ei gweithio gan geffylau a disgyrchiant i draddodiad o ddefnyddio stêm a chludo teithwyr.

Roedd y rheilffordd yma nid yn unig yn ysbrydoliaeth i Reilffordd Talyllyn a Rheilffordd Chwarel Penrhyn yng Ngwynedd ond hefyd i sawl un arall ym mhedwar ban byd, gan gynnwys Rheilffordd Darjeeling yn India sydd yn Safle Treftadaeth y Byd. Erbyn heddiw, dyma rheilffordd o’r 19eg ganrif gorau o ran cadwraeth yn y byd. Mae ei wagenni llechi yn cael eu defnyddio yn rheolaidd i arddangos teithiau disgyrchiant, gan ail-greu y dull hanesyddol o ddod â llechi i lawr y rheilffordd.

Mae’r ceiau ym Mhorthmadog, adeiladwyd rhwng 1824 a 1869, ble cafodd llechi eu llwytho i’w hallforio i’r Almaen a thu hwnt, a’r ceiau bychan ar lan afon Dwyryd, gafodd eu hadeiladu rhwng 1812 a 1836, yn parhau o hyd. Mae cryn dipyn o adeiladu beth bynnag wedi digwydd ym Mhorthmadog ar ffurf maisonettes a chanolfan gymunedol ers y 1960au.  

Arial Harbwr Port