Bryneglwys, Abergynolwyn a Rheilffordd Talyllyn

Bryneglwys AP_2005_2301

Mae chwarel Bryneglwys, pentref Abergynolwyn a Rheilffordd Talyllyn gyda’i gilydd yn creu tirlun rhyfeddol o gyflawn, rhannol-weithredol, rhannol-greiriol o gloddio, prosesu, cludo a chymuned a hynny yn tarddu o oes aur diwydiant llechi Gogledd Cymru.

Bryneglwys

Yn chwarel Bryneglwys roedd dwy weithien lechi o gyfnod Uwch-Orficiaidd yn cael eu cloddio o’r chwarel yr ucheldir rhwng dyffryn afon Fathew i’r gogledd ac aber y Dyfi i’r de. Agorwyd y chwarel yn y 1840au cynnar. Yn 1859 cafodd ei osod i’r mentrwr John Lloyd Jones o Nantlle, drosglwyddodd y prydles i’r brodyr McConnel o Fanceinion yn 1863, sef perchnogion cwmni cotwm enfawr oedd a’u bryd ar ymestyn eu busnesau yn ystod y prinder cotwm achoswyd gan Ryfel Cartref America. Cafodd y llechi eu cloddio tanddaear a hefyd mewn tyllau agored a’r blociau wedyn yn cael eu prosesu mewn melinnau oedd yn cael eu gweithio yn bennaf gan dwrbinau.

Rheilffordd Talyllyn

James Spooner, brawd Charles Easton Spooner o Reilffordd Ffestiniog, wnaeth y gwaith arolwg a pheirianyddol ar Reilffordd Talyllyn ar gyfer y McConnels. Agorwyd y rheilffordd yn 1866. Dyma’r esiampl cyntaf o un o reilffrydd y diwydiant llechi yn cysylltu efo rhwydwaith prif-reilffyrdd Prydain (sef Rheilffordd newydd Aberystwyth ac Arfordir Cymru) yn hytrach na’r môr. Dyma hefyd un o’r rheilffyrdd cul cyntaf yn y byd i gael ei adeiladu yn benodol ar gyfer denfyddio stêm a chludo teithwyr.

Abergynolwyn

James Stevens, pensaer o Fanceinion oedd yn gyfrifol am gynllunio pentref Abergynolwyn oedd yn eiddo i gwmni McConnels yn yr 1860au a hynny o gwmpas casgliad bychan o aneddiadau. Adeiladodd nifer o dai teras tebyg i’r rhai welir yn Swydd Caerhirfryn ond gan ddefnyddio blociau o llechi. Yn anarferol iawn, roedd pentref Abergynolwyn yn cael ei wasanaethu gan inclên a rheilffordd gwastad Talyllyn, oedd yn dod a glo, cwrw a nwyddau i’r pentref ac yn mynd a’r pridd nos yn ôl i Dywyn.

Caewyd y chwarel yn 1946, ac mae rhan helaeth o’r safle yn goedwig erbyn hynm er bod torri peth o’r coed yn ddiweddar wedi dod a mwy o’r tirlun i’r golwg. Un nodwedd arbennig ydi’r system inclên oedd yn defnyddio olwyn ddŵr i’w gweitho ac a ysbrydolwyd gan system debyg yn Nantlle. Mae hon ar gyrion y gwaith awyr agored adeiladwyd gan weithwyr John Lloyd Jones yn y 1860au, yn dystiolaeth o dechnoleg y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru yn cael ei allforio o’r naill ardal i’r llall.

Ychydig iawn o newid fu ym mhentref Abergynolwyn o’r cychwyn cyntaf. Mae Rheilffordd Talyllyn yn parhau i weithio yn llwyddianus iawn yn cludo twristiaid, ac mae’r brif reilffordd o Bwllheli i Gyffordd Dyfi hefyd yn parhau ar agor. Mae amgueddfa Rheilffordd Talyllyn yn yr orsaf yn Nhywyn yn adrodd hanes technoleg ryfeddol yr ardal yma a’i gysylltiadau efo’r diwydiant llechi.

Astudiaeth Cymeriad Abergynolwyn

Talyllyn_Brynerwest Carousel