Dinorwig

Chwarel Dinorwig

 Mae’r ardal yma yng nghysgod chwarel enfawr Dinorwig, wrth droed yr Wyddfa ac nid nepell o gastell Canoloesol Dolbadarn, sydd yn sefyll rhwng dau rewlyn sef Llyn Peris a Llyn Padarn.

Hawdd gwerthfawrogi maint y chwarel wrth edrych tua’r mynydd dros Llyn Peris. Nifer o bartneriaethau bychan gychwynodd chwarelydda yn yr ardal yma a hynny tua 1700. Yn 1808 dechreuodd Stâd y Faenol weithio ar y cyd efo rheolwr chwarel profiadol o Ardal y Llynnoedd yn Lloegr, sef William Turner, ac erbyn 1820, nhw oedd yn rheoli’r cyfan. O hynny ymlaen cafodd Dinorwig ei datblygu yn yr un modd â Chwarel y Penrhyn gyfagos sef fel chwarel oedd o dan reolaeth lwyr y stâd ble roedd wedi ei lleoli, a daeth cyn bo hir i gystadlu â Penrhyn o safbwynt maint a chynnyrch.

Yn y dyddiau cynnar, ceffyl a chert a chychod oedd yn cludo’r llechi i borthladdoedd Caernarfon a’r Felinheli (Port Dinorwic). O 1825 beth bynnag, cludwyd y cerrig ar hyd rheilffordd tebyg i’r un wreiddiol yn Chwarel y Penrhyn yn 1801. Yn 1842, trenau stêm oedd yn cludo’r llechi.  

Erbyn 1870 roedd y gwaith o ail-drefnu’r chwarel yn llwyr wedi ei gwblhau a golygai hyn bod inclêns newydd wedi eu creu a gweithdai enfawr pedeironglog yn Gilfach Ddu wedi eu codi i wneud gwaith cynnal a chadw. Mae maint y gweithdai a’r uchelgais pensaerniol amlwg yn awgrymu mai rhan o bwrpas gwneud y gwaith oedd i bwysleisio maint adnoddau’r tirfeddianwr a’i safle cymdeithasol. Cafodd ysbyty modern ei adeiladu gerllaw tua 1863, mewn llecyn amlwg er mwyn pwysleisio bwriad dyngarol y stâd.

0177 Anglesey Barracks at Dinorwic Quarry DS2013_204_007

Roedd rhai chwarelwyr yn byw mewn aneddiadau a barics oddi mewn i’r chwarel. Cafodd barics Môn, sydd wedi ei ddiogelu, ei adeiladu ar gyfer y gweithwyr oedd yn aros wythnos yn y chwarel, yn ogystal â thai ar gyfer uwch-weithwyr. Roedd y chwarelwyr a’u teuluoedd wedi cychwyn codi cartrefi ar dîr comin i’r gogledd o’r chwarel ers y 18fed ganrif, ac roeddyn nhw’n gwrthwynebu cau’r tir comin gan stâd y Faenol rhwng 1806 1814. Polisi’r stâd wedyn oedd gadael iddyn nhw fyw ar leiniau o dir oedd wedi ei gau a’u hannog i adeiladu eu cartrefi ei hunain. Fe wnaeth y chwarelwyr benderfynodd wrthod y cynllun yma symud i dir rhyddfreiniol gerllaw, gan adeiladu pentrefi Deiniolen a Chlwt y Bont.

Gwelir tystiolaeth o ysbryd annibynnol y chwarelwyr hefyd yn Nghraig yr Undeb, man cyfarfod traddodiadol, ble cafodd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru ei gyhoeddi yn 1874.

Nid yw’r gweithdai pedeironglog wedi newid fawr ers 1870, ac yma heddiw y lleolir Amgueddfa Lechi Cymru. Mae’r inclêns oedd yn cludo’r llechi i lawr i’r gweithdai wedi goroesi yn gyfan, ac mae un wedi cael ei adfer i gyflwr gweithio. Mae injans y chwarel bellach yn tywys trenau llawn twristiaid ar hyd rhan o reilffordd y chwarel fel ac yr oedd yn 1842.  Cafodd yr ysbyty ei agor fel atyniad i dwristiaid gan Gyngor Gwynedd ac mae llawer o beiriannau hanesyddol i’w gweld o hyd yn y chwarel ei hun.

Astudiaeth Cymeriad Deiniolen

 20180201_094340