Dyffryn Nantlle

             600307

Dyma’r ardal mwyaf llwm a’r un sydd yn denu y lleiaf o dwristiaid o holl ardaloedd chwarelyddol Gogledd Cymru, ac eto ar un wedd, dyma’r ardal mwyaf ysgogol i’r rhai sydd â diddordeb yn hanes y llechi. Dyma dirwedd o ddyffryn aml-gyfnod sydd yn ymledu o lethrau’r Wyddfa i wastadedd Arfon ac yna at y môr.

Mae cloddio am lechi wedi digwydd yma ers cyfnod y Rhufeiniaid, yn y mannau ble mae cerrig brig geirwon i’w gweld ar lethrau’r dyffryn ar Ochr y Cilgwyn. Gan fod y dyffryn yn eiddo i nifer o stadau, roedd y gweithiennau llechi yn cael eu cloddio mewn chwareli ar wahan.

Yma a thraw mae adeiladau ffermydd o’r cyfnod cyn-ddiwydianol wedi goroesi ar y tir rhwng y chwareli, a hyn yn dystiolaeth byw o’r newid o economi amaethyddol i un chwarelyddol. Trawsnewidiad rhannol oedd hyn erioed; fe wnaeth nifer o chwarelwyr Nantlle a’u teuluoedd gadw’r cysylltiad efo’r tir gan fyw mewn tyddynnod ac mae esiamplau o rhain i’w gweld hyd heddiw ar Ochr y Cilgwyn.

Fel arfer, roedd y chwareli yma yn dyllau dyfn oedd wedi eu hagor ar lethrau neu lawr y dyffryn. Oherwydd hyn roedd yn rhaid defnyddio systemau pwmpio uchelgeisiol. Mae safleoedd yr olwyni dŵr a’r rhodenni fflat yn chwarel Penybryn yn gwrthgyferbynu efo’r injan drawst o 1904-06 sydd wedi goroesi yn chwarel Dorothea, sef yr injan Gernyweg olaf i’w chodi yn newydd yn unman yn y byd.

Engrhaifft arall o fewnforio technoleg yw’r rhaffyrdd ‘blondin’ sydd i’w gweld yn chwarel Penyrorsedd efo’u peiriannau trydanol cynnar a hefyd yn Blaen y Cae ble roeddyn nhw ynghlwm â pheiriant rholio stêm. Mae’r meliannau mawr bellach wedyn mynd a’u pen iddo ac mae llwybr y brif ffordd ddefnyddiwyd i gludo llechi o’r chwareli, sef Rheilffordd Nantlle a’r inclêns cysylltiol, wedi goroesi dim ond fel nodwedd llinellol trwy dirwedd y chwareli.Roedd y rheilffordd i ddechrau yn darparu mynediad i’r Cei Llechi yng Nghaernarfon, ond cafodd y rhan trwy’r chwareli ei gwtogi rhwng 1869 - 1872, gan barhau i weithredu fel ffordd i geffylau bron iawn hyd at pan gaewyd y chwareli yn 1963.

Mae chwarelwyr a’u teuluoedd wedi gwneud bywoliaeth mewn amgylchedd anodd iawn yn Nyffryn Nantlle, heb fawr o help gan na thirfeddianwyr na buddsoddwyr. Y safleoedd mwyaf trawiadol yn y tirwedd chwarelyddol yma yw tomenni bychan y contractwyr o gyfnod y Dirwasgiad Mawr grewyd fel llochesi allan o wastraff chwarelyddol ble roedd chwarelwyr di-waith yn creu llechi toeau o greigiau oedd wedi cael eu taflu yno yn ystod y dyddiau da.