Dyffryn Ogwen

High Res Bethesda

Mae Dyffryn Ogwen yng ngogledd Gwynedd. Bu cloddio am lechi yma ers y cyfnod Canoloesol ond dim ond o ddiwedd y ddeuawfed ganrif ymlaen y cafodd y diwydiant ei ddatblygu yn sylweddol, a hynny gan Richard Pennant, Arglwydd Penrhyn a’i ddisgynyddion.

Cafodd y fenter ei rhesymoli a’i mecaneiddio ar raddfa fawr o’r 1780au ymlaen. Cafodd y ffyrdd eu gwella, crewyd galeriau-chwarleyddol ac agorwyd melin-lifio ddŵr ar gyfer trin y slabiau. Gwnaed gwellianau sylweddol i borthladd Porth Penrhyn ger dinas Bangor ac adeiladwyd rheilffordd i gludo’r llechi o’r chwarel i’r môr. Canlyniad hyn oll oedd i’r chwarel dyfu i fod y fwyaf yn y byd erbyn canol y bedwaredd ganrif a’r bymtheg, gan gyflogi 2,750 o ddynion a chynhyrchu 110,368 o dunnelli o lechi y flwyddyn. Erbyn hyn mae’r chwarel yn ymestyn dros 225 hectar (556 acer).

Canlyniad arall oedd bod y chwarel a’i reilffordd arloesol yn denu teithwyr ac eraill oedd gan ddiddordeb yn y diwydiant o Loegr, Ffrainc a Phrwsia. Roedd y teulu o’r cychwyn cyntaf yn rheoli chwarel y Penrhyn yn yr un modd ag yr oeddyn nhw’n rheoli eu ystadau siwgr a’u caethweision yn Jamaica. Roedd hyn yn achosi gwrthdaro cyson rhwng y rheolwyr a’r gweithwyr.

Roedd nifer o’r chwarlewyr a’u teuluoedd yn fodlon byw mewn bythynnod bychan o eiddo’r stâd, fel y rhai sydd i’w gweld ar Fynydd Llandygai. Roedd eraill yn gwrthwynebu ymdrech yr Arglwydd Penrhyn i reoli pob agwedd o’u bywydau, gan godi eu haneddau ei hunain ar lain o dir gerllaw. Fe dyfodd y casgliad o dai yma yn bentref ac yna yn dref Bethesda, enwyd ar ôl capel yr Annibynwyr yno.

Daeth pethau i ben mewn anghydfod diwydanol barodd o 1900 i 1903, yr anghydfod hiraf yn hanes Prydain am gyfnod maith, ac anghydfod ddenodd sylw’r wasg yng ngweddill y Deyrnas Unedig ac ar gyfandir Ewrop.

Nid yw’r trefi a’r pentrefi chwarelyddol wedi newid fawr ers diwedd y bedwaredd ganrif a’r bymtheg, ac mae nhw’n parhau i fod yn esiamplau gwych o gymunedau gweithiol niwcliar a gwasgaredig. Mae Bethesda, sydd yn ymestyn ar hyd rhan o lôn bôst Thomas Telford (yr A5 erbyn hyn) yn rhan o daith sawl ymwelydd â Gogledd Cymru.

Roedd teulu’r Penrhyn yn byw yn y castell neo-Normanaidd ysblenydd ynghanol parc ar gyrion Bangor. Heddiw, mae’r castell a’i gyffiniau agos yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda gweddill y tir yn parhau ym meddiant y stâd. Mae chwarel y Penrhyn yn parhau i gynhyrchu llechi, gan barhau hefyd i feithrin y traddodiad hir o ddefnyddio’r sgiliau sydd yn nodweddiadol o’r diwydiant, er ei fod hefyd yn flaenllaw ym maes ymchwil ac arbrofi efo dulliau newydd o brosesu llechi yn fecanyddol.

Astudiaeth Cymeriad Bethesda