Cwmystradllyn a Cwm Pennant

Cwmystradllyn

Cwmystradllyn

Mae tirwedd chwarelyddol Cwmystradllyn a Cwm Pennant yn dyddio o ddyddiau da y cyfnod rhwng yr 1850au a’r 1870au pan gafodd chwareli bychan yn Gorseddau a Bwlch y Ddwy Elor eu hagor mewn dull digon tebyg i’r hyn ddefnyddiwyd yn chwarel y Penrhyn - sef cyfres o galeriau wedi eu cysylltu gan inclêns, ac fe grewyd cyswllt rheilffordd wedyn rhwng y chwareli a’r môr ym Morthmadog.

Roedd chwarel Gorseddau yng Nghwmstradllyn wedi cael ei gweithio ar raddfa fechan ers  1836 ond cafodd ei datblygu yn sylweddol o 1854 ymlaen. Codwyd melin ddŵr trin slabiau aml-lawr uchelgeisiol, sef Tŷ Mawr Ynysypandy, ar batrwm ffowndri ond mewn gwirionedd roedd yn edrych yn debycach i abaty wedi mynd a’i ben iddo mewn ardal fynyddig. Agorwyd rheilffordd wedyn i’r harbwr ym Mhorthmadog.

Cafodd y rheilffordd a Tŷ Mawr o bosib eu cynllunio gan Sir James Brunlees, oedd yn gyfrifol am reilffordd Sao Paulo yn Brasil, rheilffordd pegwn Mont Cenis, Rheilffordd y Mersi a sawl un arall, ond saer maen lleol, Evan Jones oedd yn gyfrifol am godi’r felin.

Cwm Pennant

Codwyd pentref Treforys i’r gweithwyr yma ond ni fu’r fenter yn llwyddianus yn hir gan fod carreg y gellid ei defnyddio yn fasnachol yn brin. Ni chynhyrchwyd fawr o lechi ar ôl 1866. Chwarel fechan oedd Bwlch y Ddwy Elor yng Nghwm Pennant, gafodd ei chloddio yn yr 1860au fel chwarel lechi y Prince of Wales. Y rheolwr oedd William Francis, fu cyn hynny yn gyfrifol am chwarel y Penrhyn. Agorwyd saith galeri, wedi eu cysylltu efo un inclên i felin ddŵr trin slabiau. Roedd y felin agorwyd yn 1864, yn debyg i’r melinnau agorwyd yng nghweithdai Felin Fawr y Penrhyn ddwy flynedd yn ddiweddarach. Defnyddiodd y rheilffordd ran o lwybr rheilffordd chwarel Gorseddau, ond doedd chwarel y Prince of Wales chwaith ddim yn llwyddianus gan gau yn 1886.

Er nad oedd y chwareli yma yn llwyddianus mae nhw wedi goroesi gan greu tirlun creiriol grymus tu hwnt. Mae’r ddwy chwarel yn engrheifftiau o dduliau chwarelyddol oedd yn datblygu ynghanol y 19 ganrif, pan roedd pwyslais ar beirianwaith a lefel uchel o fuddsoddiad hyd yn oed mewn ardal mor wyllt ag unig.