Drysau Agored 2018

Cofnodwyd: Dydd Mawrth 21 Awst 2018

Croeso i Ddrysau Agored 2018, dathliad o dreftadaeth bensaernïol ryfeddol Gwynedd a Chonwy.

Drwy gydol mis Medi bydd mwy na 60 o safleoedd dros Wynedd a Chonwy yn rhoi mynediad am ddim i'r cyhoedd i'w heiddo.

Mae sawl eiddo yn rhoi digwyddiadau ychwanegol ymlaen gan gynnwys darlithoedd, teithiau tywys ac arddangosfeydd. Pam na ddewch chi i ymuno â ni, a chael golwg agosach ar dreftadaeth Gwynedd a Chonwy?

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen we Cadw.

Sylwadau
Ychwanegu Sylwadau