Cwestiynnau sy'n Codi

Beth yw Safle Treftadaeth y Byd?

Cafodd Sefydliad Addysgiadol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (UNESCO) ei greu yn 1945 yn dilyn dau ryfel byd, er mwyn ymateb i’r grêd gadarn nad yw cytundebau gwleidyddol ac economaidd yn ddigon i greu heddwch parhaol rhwng cenhedloedd. Crêd UNESCO bod heddwch yn dod o gael cenhedloedd i gyd-weithio gan gydnabod bod gwerthoedd a hunaniaeth pob un yn gyfraniadau gwerthfawr i ddynoliaeth. 

Mae UNESCO yn ymdrechu i adeiladu rhwydweithiau rhwng y cenhedloedd trwy addysg, dealltwriaeth rhyng-ddiwylliannol, cydweithredu gwyddonol a gwarchod rhyddid mynegiant.

Pwy yw UNESCO?

Mae Safle Treftadaeth y Byd yn le sydd yn cael ei restru gan UNESCO fel rhywle sydd o werth corfforol neu ddiwylliannol arbennig. Mae’n glwb cyfyngedig o safleoedd sydd wedi profi eu bod rhywsut neu’i gilydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol o ‘werth neilltuol byd-eang’ i ddynoliaeth. 

Y term swyddogol yw Arysgrifiad Treftadaeth y Byd, a buasai ennill hyn yn golygu bod y Diwydiant Llechi yn ymddangos ar restr o safleoedd cyfoes sydd yn cynnwys y Taj Mahal, y Pyramidiau, Pont Forth, Stonehenge, Mur Mawr Tseina a nifer o safleoedd eraill ar hyd a llêd y byd. 

Oes yna Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru?

Mae gan Gymru dri Safle Treftadaeth y Byd eisoes. Cafodd dyfrbont Pontcysyllte ger Wrecsam ei chynllunio gan Thomas Telford. Ar ôl iddi gael ei chwblhau yn 1805, hon oedd y croesiad talaf ar gyfer cychod camlesi yn y byd. Cafodd safle Gweithfeydd Dur Blaenafon ger Y Fenni ei restru oherwydd ei gyfraniad enfawr i’r Chwyldro Diwydiannol. Mae Cestyll Edward 1af yn un o brif atyniadau twristaidd Cymru ac mae un ohonyn nhw, sef Castell Caernarfon, wedi ei leoli yn union y drws nesaf i’r Cei Llechi o ble cafodd miloedd o lechi Cymreig eu hallforio i bedwar ban byd.

Pwy sydd tu cefn i’r cais?

Cyngor Gwynedd sydd yn arwain y cais mewn partneriaeth efo Cadw, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Y Comisiwn Brenhinol ar Henebion Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Partneriaeth Llechi Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae partneriaid wedi creu Grŵp Llywio a dau îs-grŵp; y naill yn gyfrifol am gynllunio, cadwraeth a rheolaeth, a’r llall am ddatblygu economaidd. Mae arbenigwyr ym meusydd treftadaeth, cadwraeth, ymgysylltu a chysylltiadau cyhoeddus hefyd wedi cael eu comisiynu i weithio ar dasgau penodol. Grŵp bychan o adran Economaidd a Chymuned Cyngor Gwynedd a Cadw sydd yn rheoli’r prosiect. 

Pwy sydd yn ariannu’r cais?

Mae pob un o’r partneriaid yn y fenter wedi cyfrannu yn ariannol neu trwy ddulliau ymarferol, ond daw’r rhan fwyaf o’r cyllid oddi wrth Cyngor Gwynedd. Mae Partneriaeth Llechi Cymru yn grŵp sydd yn cynrychioli y sector gyhoeddus, preifat a gwirfoddol oddi mewn i’r diwydiant ac mae’r aelodau wedu darparu cefnogaeth arbennigol sywleddol a pheth cefnogaeth ariannol.

Pa bryd fydd y cais yn cael ei gyflwyno?

Cafodd cais Llechi Cymru ei gyflwyno gyntaf i Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) Llywodraeth San Steffan yn 2009 pan gafodd ei roi ar restr betrus o safleoedd i’w cyflwyno i UNESCO gan lywodraeth y DU. Cyflwynwyd gwerthusiad technegol o’r cais i DCMS ym mis Tachwedd 2015 i’w ystyried gan banel o arbenigwyr. Cafwyd ymateb positif ac adeiladol i’r cais yn gynnar yn 2016 ac yr ydym ar hyn o bryd yn datblygu a chryfhau’r dogfennau angenrheidiol gyda’r gobaith o gael dyddiad ar gyfer cyflwyno’r cais yn gyflawn i UNESCO.