Ble yn y Byd?

Mae llechi rwygwyd o fryniau Gogledd Cymru wedi cael eu defnyddio fel deunydd toi deniadol a hirhoedlog ers cyfnod y Rhufeiniaid. Llechi Cymru wnaeth doi trefi’r Chwyldro Diwydianol yng Ngwledydd Prydain ac erbyn yr 1870au dyma hefyd oedd hanes y trefi oedd yn prysur dyfu yn Ewrop, America ac Awstralia.

Nid oes yr un diwydiant cerrig wedi tra-arglwyddiaethau dros farchnadoedd y byd fel llechi Cymru. Dyma paham mae partneriaeth o sefydliadau lleol a chenedlaethol yng Nghymru yn credu y dylid cydnabod cyfraniad y diwydiant ym mhedwar ban byd trwy ddyfarnu iddo statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.  

Fe wnaeth y chwarelwyr ffurfio’r tirwedd ble roeddyn nhw’n byw. Lluniwyd y chwareli enfawr a’r tomeni o gerrig gwastraff gan eu medrusrwydd a’u gwaith caled, a hynny mewn amgylchedd garw. Dyma sydd yn cynnal diwydiant llechi modern ag egniol yng Ngogledd Cymru. 

Y chwarelwyr a’u teuluoedd wnaeth lunio diwylliant Eryri. Mae trefi a phentrefi hanesyddol yr ardal yn dystiolaeth byw o’r frwydr i greu ffordd newydd o fyw - gan gadw’r gorau o’r hen ffordd yr un pryd. Mae eu capeli, eglwysi, llyfrgelloedd, ag ystafelloedd cyfarfod yn adrodd hanes ffydd a chariad at addysg, llenyddiaeth a cherddoriaeth. Mae cartrefi enfawr a gerddi perchnogion y chwareli ar y llaw arall yn dystiolaeth o’r cyfoeth grewyd gan y diwydiant.  

Roedd rheilffyrdd enwog adeiladwyd i gysylltu’r chwareli â’r môr unwaith yn denu peirianwyr o bob cwr o’r byd yma i ryfeddu ag efelychu. Heddiw mae nhw yn magu stêm trwy gludo twristiaid. Mae’r tirwedd yma yn gyfoes ac yn hanesyddol yr un pryd, yn fan ble mae ddoe yn cyfarfod heddiw. Mae’r cymunedau yn parhau i fod yn ardaloedd diwylledig a’r Gymraeg yn fyw o hyd yn chwareli Eryri - y chwareli wnaeth doi’r byd.