Holiadur Gwerthuso Cynllun LleCHI

Prosiectau

Rydym yn awyddus i dderbyn eich barn ar effaith Cynllun LleCHI, mae’n cynllun yn dod i ben eleni.

Beth ydy Cynllun LleCHI?

Mae Tirwedd Llechi gogledd-orllewin Cymru wedi derbyn dynodiad Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, cyhoeddwyd hyn yn Gorfennaf 2021. Mae’r dynodiad yn cydnabod dylanwad diwydiannol a diwylliannol ein ardal ar weddill y Byd - mae’n ddathliad o bobl, cymunedau a thirwedd anhygoel Gwynedd. Mae'r chwech ardal sy'n rhan o'r dynodiad yn cynnwys ardaloedd yn Nyffryn Ogwen, Chwarel Dinorwig, Dyffryn Nantlle, Blaenau Ffestiniog, Gorseddau a Bwlch y Ddwy Elor, a Abergynolwyn i Tywyn.

Ochr yn ochr â’r gwaith o ddatblygu’r cais am am ddynodiad Safle Treftadaeth y Byd UNESCO bu Cyngor Gwynedd yn rhedeg cynllun LleCHI, gyda’r nod o geisio grymuso, ail-gysylltu ac adfywio’r cymunedau hynny. Mae’n cynnwys wahanol brosiectau i’w gwireddu yn yr ardaloedd a thrwy waith dehongli, celf, digwyddiadau, arddangosfeydd a thrwy greu Llysgenhadon Ifanc a Llysgenhadon yn ein cymunedau a busnesau.

Pwy all gwblhau’r holiadur? Sut byddwn yn defnyddio’r data?

Mae’r holiadur ar gyfer trigolion, sefydliadau a busnesau. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth i weld beth yw effaith Cynllun LleCHI ac adnabod unrhyw wersi a cynllunio i’r dyfodol.

Dyddiad Cau 29 Hydref, 2021.

Holiadur Gwerthuso Cynllun LleCHI