Text of 'A fo ben bid bont' map

ATGOF A CHOFNOD
Detholion o’r dyddiau gynt, gan Glan Rhythallt

NOSWYL TREN CHWARELWYR DINORWIG

Yn niwedd yr haf, sef Awst, y flwyddyn 1895 y dechreuodd tren chwarelwyr Dinorwig deithio rhwng y Gilfach Ddu a’r Felinheli, a gorffen bythefnos yn ôl. Ar y daith yr oedd oddeutu hanner dwsin o safleoedd i godi a gostwng y gweithwyr fore a hwyr. Gelwid pob un o’r safleoedd hyn yn “stesion.” Y tri safle neu stesion pwysicaf oedd Penllyn, Pontrhythallt, a Bethel. Cadwai teithwyr y tri lle hwn eu cerbydau mewn siediau dros y nos, a’u tynnu allan yn y bore. Eisteddai 60 ymhob cerbyd, a rhif pob teithiwr wedi ei argraffu ar ei sedd, a thocyn pres bychan, a’r rhif ar hwnnw hefyd, ym mhoced pob teithiwr. Yr oedd llythyren ar bob cerbyd, ac ar y tocyn pres, fel y byddai pawb yn eistedd yn yr un sedd pob dydd; ond gellidgwneud cais am sedd wag mewn cerbyd arall, os yn dymuno hynny. Y tal yn amrywio yn ol pellter y daith. Swllt a deg yn y mis ydoedd i Bontrhythallt, sef y safle ganol o’r daith. Ond codwyd ychydig ar y tâl ar ôl y rhyfel mawrcyntaf, ond yr oedd yn rhad wedyn, o’i gymharu a thâl tren chwarelwyr Glan’rafon; yr oedd hwnnw’n wyth swllt yn y mis cyn y rhyfel.Ar y dechrau, teithiai oddeutu deuddeg cant yn y tren hwn bob dydd ac oddeutu cant a hanner o weithwyr o Sir Fon a mannau eraill, ar ddydd Llun a Sadwrn; arhosent yn y barics ar hyd yr wythnos. Swllt yn y mis oedd tal iddynt hwy. Bob mis telid cyflogau’r gweithwyr yr amser hwnnw. Byddai’r tren yn cyrraedd Pontrhythallt tuag ugain munud wedi chwech yn y bore, ac yn cyrraedd yn ôl yn yr hwyr oddeutu hanner awr wedi chwech. Felly byddai’n rhaid inni godi oddeutu chwarter wedi pump y bore i ddal y tren, ac os gwelai’r giard chwi’n rhedeg amdano funud neu ddau yn hwyr, byddai’n sicr chwibanu ei bib ac ysgwyd ei faner i gychwyn y tren, a’ch gadael ar ol ar yr esgynlawr, yn edrych mor hurt â phe buasai’r gwynt wedi cipio’ch het dros y clawdd, a’ch gwynt chwithau wedi mynd i’w chanlyn. Yn y gaeaf byddai’n dywyll pan gychwynem yn y bore, ac felly’r hwyr. Goleuid y tren a lampau paraffin, un lamp i bob cerbyd. Gan mai agored oedd pob cerbyd, gwnai un lantern y tro rhwng trigain a’i hongian yn y canol! Cyfyng iawn oedd y lle i eistedd os y byddai pawb yn bresennol. Nodai’r prif oruchwyliwr un o’r gweithwyr ymhob cerbyd i fod yn fforman, ac i ofalu am dâl pawb ar ben y mis; a chawsai saith a chwech a’i gludiad yn ddi-dal am hynny. Ond daeth cwmniau moduron mawr i ddechrau cludo o ddrysau ein tai, i fyny i ymyl ein ponciau chwarel, ac felly arbed awr neu ddwy o gerdded i lawer ohonom. Felly, aeth y tren yn llaillai, a’r moduron yn fwyfwy.

OES Y CEIR GWYLLTION

Gwella y mae pethau o oes i oes; cerdded y byddai’n hen deidiau i’r chwarel; yr holl ffordd faith a fyddai gan rai ohonynt yn enwedig o’r Waunfawr. Wedyn dyfeisiwyd y “car gwyllt.” Yr oedd dau fath o gar gwyllt, y naill i’w gicio, fel y dywedem, a’r llall i’w droi â phedair handlen. Hairan ysgafn oedd eu defnydd, 16 fyddai criw pob car troi, ond cymerid ryw hanner dwsin eraill i mewn am dâl o chwechcheiniog yn y mis. Yr 16 oedd perchnogion y car, wrth gwrs. Gwaith caled iawn oedd troi y ceir gwylltion ar bob tywydd, gyda chotiau trymion a legins byddem yn chwys diferol cyn dechrau ar ein diwrnod gwaith. Byddai rhai yn teithio gyda chychod ar hyd Llyn Padarn, cyn oes y ceir gwylltion, a chollodd eraill eu bywydau, yn ddamweiniol, wrth gwrs. Bu hefyd lawer damwain angheuol gyda’r tren llechi o dro i dro, sef y tren sydd yn cludo llechi o’r Gilfach Ddu i’r Felinheli; ar yr un ffordd haiarn a thren y gweithwyr, wrth gwrs. Yr oedd dwy daith pob wythnos na byddid yn arfer y ceir gwylltion, sef y daith o’r Gilfach Ddu hanner dydd y Sadwrn, a’r daith ar fore Llun; tren y llechi a gludai bawb ar y ddwy daith a nodwyd. Byddai pawb yn eistedd ar ben y llechi yn y gwageni bach, a gwelech eu trowsusau melfared gwynion ar hyd y tren, a’r coesau yn hongian dros ochrau’r gwageni. Pobl Sir Fôn a fyddai yn y pen agosaf i’r peiriant, a’u waleti gwynion ar fore Llun ar eu gwarau, yn lân, ac yn llawn o dorthau ac ymenyn, a thê a siwgr, etc., ar gyfer byw wythnos yn y barics. Byddai’n rhaid iddynt godi dri o’r gloch fore Llun, a cherdded milltiroedd i Moel y Don, a chroesi Afon Menai gyda’r cwch, a dal y tren bach mewn pryd; ac wedi cyrraedd y chwarel, cerdded milltir neu ddwy wedyn ar lethr y mynydd serth, sef y chwarel. Ambell griw barics yn gwenud paned o de wedi cyrraedd, cyn cychwyn at eu gwaith i’r bonc; i gyd yn ddynion cryfion ôl llaeth ac ymenyn ar eu bochau, a chymeriad da iddynt fel gweithwyr bob amser. Bydd arnaf hiraeth wrth gofio’u henwau a’u cwmni gynt:- Jac Llangefni; Dic Huws, Niwbwrch; Wil Wilias, Brynsiencyn; Wil Jphn, Brynsiencyn, a’r hen John Evans(Jaci) ddoniol, a ganai inni yn y caban ar ddiwrnod glawog ei hen hoffusion. “Bwgan Pant y Wennol.” etc. un o ganeuon llofft stabl oedd hi. Fel isod y dechreuai:-

“Y Cymru mwyn, yn gytûn,

Pobl Arfon bod ag un,

Wnewch chwi wrando stori’r bwgan

Sy’n poeni pobol Llŷn.”

Gan y byddai’r tren yn teithio glan Llyn Padarn, am agos ddwy filltir o ffordd, byddai’r olygfa yn ardderchog ar ddiwrnod tawel, o’r ochr arall i’r llyn; a’r dwr fel gwydr. Gwelech ddau dren; yr un ar y lan, a’i lun i lawr yn y llyn oedd y llall; a’r ddau dren yn cyd-symud ynghanol coed, creigiau, a blodau amryliw llethr-glos y Fachwen. Mwg y naill yn esgyn i’r awyr, a mwg y llall yn suddo’n is i’r llyn. Bum yn edrych gyda syndod ar yr olygfa ryfeddol hol lawer tro gynt. Gellir ei gweld yn awr hefyd, wrth gwrs, gan fod y tren llechi’n parhau i redeg o hyd, ond ni ellir gweled y cannoedd gweithwyr yn eistedd arno, a’r waleti gwynion ar warrau llawer ohonynt, yn symud yn y llyn fel darluniau byw. Na, ni ddaw’r olygfa hynod honno byth yn ôl; y mae oes newydd wedi gwawrio, oes y modur newydd. Hwyrach mai awyrennau fydd yn cludo’r chwarelwyr yn fuan i’w gwaith.

Herald Gymraeg 24/11/1947