Our History Lyrics

Roedd yna chwarel lechi,

yng nghwm Ystradllyn,

Gorseddau yw ei enw,

ac mae'r stori yn mynd fel hyn.

 

Hanes, hanes, hanes x 2.

 

Roedd yna bentre' bychan, 

yng nghwm Ystradllyn, 

Treforys oedd ei enw, 

ac mae'r stori yn mynd fel hyn.

 

Dringo a ffrwydro, 

cario a cludo, 

y chwarelwyr, 

hollti a naddu,

prynu a gwerthu,

y chwarelwyr.