Tystebau

Mae’r gwaith sydd wedi digwydd drwy’r Cynllun LleCHI wedi bod yn allweddol yn y broses o godi ymwybyddiaeth am pa mor arbennig ydy broydd ein chwareli. Mae yna egni newydd a chyffro wrth fynd ati i rannu ein hanesion, gyda rhai pobl a phlant yn dysgu o’r newydd am eu treftadaeth ac eraill yn cael blas ar gyfrannu eu syniadau i gynlluniau adfywio eu cymunedau.

Amgueddfa Lechi Cymru

Rydw i’n falch iawn o fod wedi cael y cyfle o gyfrannu i’r cais yma a byddwn wrth fy modd pe byddwn yn sicrhau'r dynodiad Safle Treftadaeth y Byd a fy mod wedi cyfrannu i sicrhau fod hanes y diwydiant yn cael ei gadw yn fyw yn y cof am flynyddoedd i ddod.

Llysgennad Ifanc Llechi

Llechi wedi’u cloddio o lethrau’r mynyddoedd a lloriau’r dyffrynnoedd, neu o grombil y ddaear, wedi’u naddu gan chwys, gwaed ac ysgyfaint silicotig, oedd y deunydd ar gyfer pob dim yn ein cymuned…credaf fod y Byd am wybod rhagor am Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, ac y byddant yn gwerthfawrogi ac yn mwynhau ei arwyddocâd.

Cadeirydd Grŵp Llywio Partneriaeth Llechi Cymru

Un o fy niddordebau yw cerdded llwybrau a mynyddoedd Eryri ac fe fyddaf yn troedio’r ardaloedd pwysig yma’n rheolaidd. Mae 'na rywbeth diymhongar iawn am droedio’r un llwybrau a’r bobl oedd yn byw mewn oes mor galed a brwnt. Mae dysgu am yr ardaloedd yma a sut mae’r tirlun wedi ffurfio nid yn unig yn anrhydeddu’r bobl yma, ond yn creu ymdeimlad o berthyn. Wrth gerdded llwybr y llechi, dysgais fod y llwydni a'r blerwch yn rhan annatod o’n hanes, ac o'r herwydd, yn cyfrannu tuag at harddwch ddiguro Eryri.

Pobl y Llechi