Mapiau

Map Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru

Mae’r map yn amlygu y 6 lleoliad sydd yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd, yng Ngwynedd, sef

  1. Dyffryn Ogwen
  2. Chwarel Dinorwig
  3. Dyffryn Nantlle
  4. Gorseddau a Bwlch y Ddwy Elor
  5. Ffestiniog a Phorthmadog
  6. Abergynolwyn a Thywyn

Gellir gweld delweddau ar y map sydd yn gysylltiedig a’r diwydiant chwarelyddol, a tirwedd lechi, a’r diwylliant a threftadaeth ynghlwm. Medrir defnyddio yr adnodd fel sail ysbrydoliaeth i annog dysgwyr i greu map creadigol eu hun, fel a welir yn yr esiamplau.

Map Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru
Map Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru

Esiampl

Esiampl
Esiampl

Map Mordeithiau

Map Mordeithiau, sy’n amlygu’r porthladdoedd oedd yn cael eu defnyddio wrth allforio llechi o borthladdoedd Gogledd Orllewin Cymru, yn ogystal a thermau cysylltiedig a’r llongau, a’r offer a ddefnyddiwyd i’w adeiladu. Mae’r cardiau wedi eu grwpio i dri thema: Ymfudwyr, Llongddrylliadau, a Cludo nwyddau. Mae rhain wedi eu selio ar storïau gwir. Gellir defnyddio’r map a’r cardiau yn rhyngweithiol, neu eu lawrlwytho ar ffurf print fel adnodd addysg ar lawr y dosbarth.

Map Mordeithiau
Map Mordeithiau