John Lloyd

John Lloyd
Inigo Jones

Rwyf wedi gweithio yn niwydiant y llechi ar hyd fy oes.  Gweithiais yn Llundain am gwpwl o flynyddoedd yng nghwmni llechi’r teulu hyd 1971 pryd caeodd y ffatri lechi yn Poplar, dwyrain Llundain oherwydd cynllun ffordd newydd.

Adeg hynny, roedd gan y cwmni, ffatri yn Noc Fictoria, Caernarfon a Chwarel yn Aberllefenni. Fel symudai fy rhieni i ymddeol i Ynys Môn, symudais innau i weithio i Gaernarfon. 

Cafodd fy nhad ei eni yng Nghorris, a symudodd fy nhaid y teulu i Lundain yn 1943 i weithio i gwmni llechi; Bow Slate & Enamel.  Ar ôl y rhyfel, fe’u prynwyd y cwmni a’i ehangu yn sylweddol yn ystod y 1950au oherwydd y twf yn y diwydiant adeiladu.

Roedd Bow Slate & Enamel Co a’r cwmnïau llechi eraill ynghlwm yn arbenigo mewn llechen dimensiwn yn hytrach na llechi to traddodiadol. Yn 1956 roeddynt wedi prynu Chwarel Lechi Aberllefenni i sicrhau eu cyflenwad; Chwarel yr oeddynt yn ei adnabod yn dda am ei fod mor agos i gartref gwreiddiol y teulu yng Nghorris. Wedyn yn 1968 prynwyd John Fletcher Dixon Ltd Caernarfon a oedd wedi mynd i fethdaliad.

Ers hynny rwyf wedi gweithio yng Ngogledd Cymru a rhedeg y ffatri yng Nghaernarfon tan ddaeth y brydles i ben yn 1988 a symudwyd y ffatri i Aberllefenni, fel bod y ffatri a chwarel i gyd o dan yr un to. 

Gwerthwyd y chwarel yn 2016 pan roeddwn yn edrych i ymddeol. Ers hynny rwyf wedi bod yn ymwneud a Gwaith Llechi Inigo Jones, cwmni roeddwn wedi ei gymryd drosodd ym 1980, ac rwyf yn dal i ymwneud ag ef yn rhan amser hyd heddiw.