John Peredur Hughes

John Peredur Hughes
Tywys Go Below

Cefais fy magu ym Mhentrefelin ger Criccieth, y ieuengaf o chwech o blant. Dechreuais fy ngyrfa fel saer cychod ym Mhorthmadog, a threulio tair blynedd mewn coleg yn Falmouth Cernyw yn cwblhau fy mhrentisiaeth. Wedi cyfnod yn gweithio yma ac acw fel saer coed cefais waith yn adeiladu pwerdy Dinorwig yn yr 1970au cyn cychwyn fy ngyrfa yn y diwydiant llechi yn chwarel yr Oakeley yn Stiniog.

Pan oeddwn yn lanc ifanc roeddwn yn ymweld ag amryw chwarel gyda fy nhad a fy ewythr T G Williams a ddaeth yn berchennog chwarel yr Oakeley, a dyma pryd tannwyd fy niddordeb ym mhopeth llechi yn enwedig hanes y diwydiant.

Ar ôl wyth mlynedd yn yr Oakeley fel creigiwr a thaniwr mi gefais y fraint o fod yn Reolwr ar chwarel Pen yr Orsedd yn Nyffryn Nantlle am ddeg mlynedd, cyn dychwelyd nol ir Oakeley gyda cwmni newydd am bedair blynedd.

Yn 2003 mi dderbyniais swydd yn Amgueddfa Llechi Llanberis a cael ehangu fy niddordeb yn y byd llechi a bum yno am deuddeg mlynedd. Ers blynyddoedd bellach rwyf yn aelod o Fforwm Plas Tan y Bwlch a Chymdeithas Archeoleg Ddiwydiannol.

Rwyf erbyn hyn wedi rhan ymddeol, ac yn tywys ymwelwyr dan-ddaear gyda Go Below Underground Adventures yn chwarel Rhiwbach a Cwmorthin. Rwyf yn awdur ar agweddau o hanes y diwydiant llechi, gyda fy ail gyfrol wedi ei lansio yn Hydref 2020 ‘Llechi Oes Fictoria, Cynhyrchion a Gwneuthurwyr yng Ngwynedd a Thu Hwnt’ (cyhoeddwyd gan Gwasg Carreg Gwalch).

www.go-below.co.uk