Safle Treftadaeth Byd

Ym mis Gorffennaf 2021 penderfynodd UNESCO fod Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn haeddu statws Safle Treftadaeth Byd. Mae hyn yn golygu fod yr ardal yn Dirwedd Ddiwylliannol gwirioneddol bwysig, yr un mor bwysig â’r Taj Mahal, neu Gôr y Cewri. Mae’r ardal yn ymuno efo safleoedd Treftadaeth Byd Blaenafon a Dyfrbont Pontycysyllte i gydnabod y cyfraniad pwysig a wnaeth Cymru i’r Chwyldro Diwydiannol. Ac mae’n ymuno a Chestyll a Muriau Trefi’r Brenin Edward yng Ngwynedd fel ail safle Treftadaeth Byd Gwynedd.

Pam fod Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru wedi ei dderbyn fel Tirwedd Ddiwylliannol?

Mae’r Dirwedd yn cyfarfod dau o’r criteria sy’n cael eu gosod gan UNESCO ar gyfer Tirwedd Ddiwylliannol:

  • Mae’n dangos ac yn cyfrannu at  gamau pwysig, rhwng 1780 a 1940, mewn datblygiadau ym myd pensaernïaeth, a thechnoleg

    Mae rhai o wythiennau llechfaen gorau’r byd wedi eu lleoli yma. Gellir ei hollti’n denau, a’i droi yn llechi to ysgafn, caled. Roedd y rhain yn ddelfrydol ar gyfer y byd diwydiannol newydd oedd wrthi’n lledu trwy Brydain, Ewrop, Affrica, Awstralia a Gogledd a De America. Heb lechi to ysgafn, fyddai ddim modd adeiladu tai teras, er enghraifft. Byddai tua un rhan o dair o holl lechi’r byd wedi cael eu cynhyrchu yma yng Ngwynedd, erbyn diwedd y 19eg ganrif.

    Roedd y chwarelwyr yn benthyca peiriannau a thechnegau o ardaloedd eraill ac yn eu haddasu i’w defnydd eu hunain. Golyga hyn fod yr offer a’r peiriannau a ddefnyddiwyd i weithio’r chwareli yn ddyfeisgar a mentrus. Mae hyn yn cynnwys y rheilffyrdd cul, oedd yn gwau drwy’r dirwedd fynyddig at borthladdoedd newydd a rheilffyrdd lein fawr.

    Aeth chwarelwyr Gwynedd a’u sgiliau a’r dechnoleg i ddatblygu chwareli llechi mewn rhannau eraill o’r byd, yn enwedig Ewrop a Gogledd America. Hefyd, rhoddodd yr arbenigedd peirianyddol a ddaeth yn sgil datblygu rhwydwaith rheilffyrdd cul chwareli Gwynedd sylfaen ar gyfer datblygu rheilffyrdd tebyg mewn ardaloedd mynyddig yn Asia, America, Affrica ac Awstralia.
     
  • Mae’n esiampl eithriadol o dirwedd sy’n dangos, mewn ffordd ddramatig, sut mae pobl, a thirwedd, yn medru cyd-weithio er mwyn datblygu adnoddau naturiol

    Cafodd y dirwedd amaethyddol gynt ei drawsnewid yn hyderus i gyfarfod y galw am lechi. Ffurfiwyd y dirwedd newydd yma gan chwareli agored ac o dan ddaear, a hefyd gan y broses o weithio a symud llechi.

    Mae’r berthynas rhwng tirwedd, a gwaith yn y dirwedd honno, mor amlwg mewn llawer o ffyrdd. Er enghraifft:
    • Ponc chwarel, a’r domen rwbel ar lethr mynydd gerllaw
    • Melin llifio, ac afon i yrru’r olwyn ddŵr
    • Datblygiad pentrefi annibynnol fel Tanygrisiau neu Glwt y Bont, ar ymylon rheilffordd fyddai’n cludo’r llechi i’r porthladd
    • Ffortiwn y tirfeddianwyr yn talu am blastai a pharciau moethus.