Ffestiniog: ei Mwyngloddiau a'i Chwareli Llechi, 'dinas llechi' a'r Rheilffordd i Borthmadog

Yn 1873, disgrifiwyd tref Blaenau Ffestiniog fel “dinas y llechi” gan mai dyma dref fwyaf ardaloedd y chwareli.
Yn 1873, disgrifiwyd tref Blaenau Ffestiniog fel “dinas y llechi” gan mai dyma dref fwyaf ardaloedd y chwareli.
Gallwn weld pob cam yn y broses o greu a gwerthu llechi yn yr ardal rhwng Chwarel y Penrhyn a Phorth Penrhyn. Roedd yr ardal bron iawn i gyd o dan reolaeth teulu’r Pennant, a ddaeth yn ddiweddarach yn Dawkins-Pennant ac yna yn Douglas-Pennant.
Mae Dyffryn Nantlle yn ardal efo hanes archeolegol hir ac amrywiol. Oherwydd y dirwedd a’r ddaeareg mae’r chwareli wedi eu gwasgu i ardaloedd cyfyng. Cloddiwyd y llechi mewn tyllau dyfn ar lawr y dyffryn, neu ar y llethrau i’r gogledd.
Datblygwyd chwareli Gorseddau a Bwlch y Ddwy Elor yn y cyfnod rhwng tua 1850 a 1870, sef “Oes Aur” y diwydiant llechi yng Ngwynedd.
Rydw i’n falch iawn o fod wedi cael y cyfle o gyfrannu i’r cais yma a byddwn wrth fy modd pe byddwn yn sicrhau'r dynodiad Safle Treftadaeth y Byd a fy mod wedi cyfrannu i sicrhau fod hanes y diwydiant yn cael ei gadw yn fyw yn y cof am flynyddoedd i ddod.
Llechi wedi’u cloddio o lethrau’r mynyddoedd a lloriau’r dyffrynnoedd, neu o grombil y ddaear, wedi’u naddu gan chwys, gwaed ac ysgyfaint silicotig, oedd y deunydd ar gyfer pob dim yn ein cymuned…credaf fod y Byd am wybod rhagor am Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, ac y byddant yn gwerthfawrogi ac yn mwynhau ei arwyddocâd.
Un o fy niddordebau yw cerdded llwybrau a mynyddoedd Eryri ac fe fyddaf yn troedio’r ardaloedd pwysig yma’n rheolaidd. Mae 'na rywbeth diymhongar iawn am droedio’r un llwybrau a’r bobl oedd yn byw mewn oes mor galed a brwnt. Mae dysgu am yr ardaloedd yma a sut mae’r tirlun wedi ffurfio nid yn unig yn anrhydeddu’r bobl yma, ond yn creu ymdeimlad o berthyn. Wrth gerdded llwybr y llechi, dysgais fod y llwydni a'r blerwch yn rhan annatod o’n hanes, ac o'r herwydd, yn cyfrannu tuag at harddwch ddiguro Eryri.