Chwareli Gorseddau a Bwlch y Ddwy Elor, y Rheilffyrdd a'r Felin

“Yng nghesail y moelydd unig

Cwm tecaf y cymoedd yw”

Eliseus Williams (Eifion Wyn) (1867—1926), Cerdd 'Cwm Pennant'

Elfennau nodweddiadol a mynediad cyhoeddus

Rhestrir isod elfennau nodweddiadol sy’n rhan o’r ardal Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, a cysylltau i wybodaeth am fynediad cyhoeddus:

Datganiad ar ddiogelwch ymwelwyr

Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru heb os yn hynod ddiddorol, ond yn ôl ei natur yn medru bod yn anghysbell, peryglus a heriol. Mae cyfran sylweddol o’r tirwedd o fewn perchnogaeth preifat ac mae rhywfaint o hyn ar dir ble nad oes caniatâd i fynediad cyhoeddus.

Cyn i chi gychwyn allan i archwilio’r tirwedd llechi, gofynnwch i chi eich hunain, oes gen i’r hawl i ymweld a’r safle? Oes gen i’r offer cywir?  Ydw i’n gwybod sut fydd y tywydd? Ydw i’n hyderus fod gen i’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y diwrnod? Ewch i Mentro'n Ddiogel er mwyn darganfod sut i fwynhau eich ymweliad yn ddiogel.

 

Beth ydi’r berthynas rhwng yr ardal hardd, unig, yma, a’r diwydiant llechi? 

Gorseddaulandscape
© Hawlfraint y Goron: CBHC

Datblygwyd chwareli Gorseddau a Bwlch y Ddwy Elor yn y cyfnod rhwng tua 1850 a 1870, sef “Oes Aur” y diwydiant llechi yng Ngwynedd. Mae’r datblygiadau yma yn brawf fod pawb oedd yn buddsoddi yn y diwydiant yn disgwyl gwneud eu ffortiwn. Buddsoddwyd llawer iawn o bres yn y ddwy chwarel o’r 1850’au ymlaen. Ond, methu fu hanes y ddwy chwarel yma ychydig o flynyddoedd wedi agor oherwydd ansawdd gwael y graig.

Olion gwreiddiol o’r 19ed ganrif

Mae’r ddwy chwarel sydd wedi eu cynnwys, sef Gorseddau a Bwlch y Ddwy Elor (“Prince of Wales” oedd enw crand y perchnogion am honno) yn esiamplau da o sut fyddai chwareli’n cael eu datblygu yng nghanol y 19ed ganrif. Wedi iddynt gau, gadawodd eu gweithwyr, caewyd y rheilffyrdd, a daeth llonyddwch yn ôl i’r ardal.

Mewn chwareli mwy llwyddiannus, diflannodd y rhan fwyaf o’r ffurfiau cynnar yma, gan fod y chwareli’n cael eu datblygu a’u moderneiddio drwy’r amser. Ond yma, mae ffurf ac adeiladau’r chwareli i’w gweld fel yr oeddynt ar y cychwyn.

Balchder pobl leol, a gofal y Parc Cenedlaethol, sydd wedi sicrhau fod y dystiolaeth yma wedi parhau.

GorseddauCadw
© Hawlfraint Cadw Copyright

 

Prince of Wales Mill
© Hawlfraint Cadw Copyright

Chwarel Gorseddau

Ponciau, tebyg i rai Chwarel y Penrhyn, Bethesda, ddefnyddiwyd i ddatblygu Chwarel Gorseddau. Mae pob un o’r 8 ponc wedi goroesi, efo’u gwalia a’u cytiau ymochel. Yma hefyd mae barics lle’r oedd y chwarelwyr heb deulu yn aros dros nos.

Gorseddau Ap
© Hawlfraint y Goron: CBHC 

Chwarel Bwlch y Ddwy Elor

Datblygwyd 7 ponc yma, ond posib iawn bod yna fwriad i weithio o dan ddaear hefyd. Roedd barics yma, a dwy felin lechi. Cynlluniwyd y melinau gan John Francis, rheolwr Chwarel y Penrhyn. Mi ddefnyddiodd yr un cynllun yn Chwarel y Penrhyn o 1864 ymlaen.

Prince of Wales Ap
© Hawlfraint y Goron: CBHC

Symud Llechi

Adeiladwyd rheilffyrdd pwrpasol i gario’r llechi i Borthmadog. Roedd gan y ddwy chwarel reilffyrdd, gwahanol iawn i’w gilydd. Yn 1857, adeiladwyd lein gul at Gorseddau gan gwmni Brunlees a Fox - cwmni fu’n creu rheilffyrdd mewn sawl gwlad. Roedd yn lein dda, safonol, ar gyfer ceffyl, ond bu fawr ddim defnydd arni. Roedd cangen yn mynd i Bwlch y Ddwy Elor. Adeiladwyd hon ar gyfer injans stêm gan ŵr lleol, James Davids o Gaernarfon, mewn dull llawer ysgafnach. Chafodd hon fawr o ddefnydd chwaith. Ymunai’r ddwy reilffordd cyn cyrraedd un o’r adeiladau mwyaf rhyfeddol yn hanes datblygiad y diwydiant llechi.

Melin Slabiau Ynysypandy

Fe adeiladwyd Melin Slabiau Ynysypandy ar gyfer defnydd Chwarel Gorseddau, a’i ddefnyddio rhwng 1857 ac 1866. Mae’n adeilad anferth, wedi ei ysbrydoli gan gynllun ffowndri. Mae hyn yn adlewyrchu cefndir y buddsoddwyr. Olwyn ddŵr fu’n gyrru ei beiriannau, efo’r llechi yn cyrraedd drwy’r llawr canol. Wedi i’r chwarel gau, y sôn ydi ei fod wedi ei ddefnyddio fel neuadd gyhoeddus am gyfnod.

Ynys y Pandy Mill Tramway
© Hawlfraint Cyngor Gwynedd Council Copyright

Byw a Bod

Codwyd pentref Treforys yn y 1850’au rhwng Ynysypandy a Chwarel Gorseddau. Adeiladwyd 18 par o fythynnod dwy ystafell ar gorstir moel, digysgod. Gerllaw, codwyd tŷ ar gyfer rheolwr y Chwarel. Pentref wedi ei gynllunio ydi hwn, o bosib wedi ei ysbrydoli gan  bentref Mynydd Llandygai yn Nyffryn Ogwen. Mae’r enw yn ein hatgoffa mae bancwr lleol, Richard Morris Griffith, helpodd i ddod o hyd i’r arian ar gyfer datblygu’r Chwarel. Roedd yn lle truenus i fyw, a bu achosion o’r frech wen yma yn 1859. 

Treforys Uplands Forum
© Hawlfraint y Goron: CBHC