Cwestiynau sy'n codi

Mae Safle Treftadaeth y Byd yn ardal neu’n lleoliad sydd wedi cael ei ddewis gan Sefydliad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (UNESCO).  Mae’n ardal sydd efo arwyddocâd arbennig o ran ei ddiwylliant, hanes, gwyddoniaeth, neu ffactorau eraill.  Mae wedi'i ddiogelu'n gyfreithiol gan gytundebau rhyngwladol.  

Mae enghreifftiau yn cynnwys y Taj Mahal, y Pyramidiau, Jodrel Banc, Côr y Cewri, Mur Mawr Tsiena a nifer o safleoedd eraill ar hyd a lled y byd. 

Ym Mhrydain mae 33 Safle Treftadaeth Byd (STyB).  Mae World Heritage UK yn sefydliad a sefydlwyd yn 2015 i ymgymryd â rhwydweithio, eiriolaeth a hyrwyddo ar gyfer  Safleoedd Treftadaeth y Byd y DU, a’r Safleoedd sydd ar y Rhestr Cynigion sy’n symud ymlaen tuag at statws STyB. Am fwy o wybodaeth, ewch i safle gwe: World Heritage UK 

Mae UNESCO yn asiantaeth o fewn y Cenhedloedd Unedig sy'n gyfrifol am hyrwyddo heddwch, cyfiawnder cymdeithasol, hawliau dynol a diogelwch rhyngwladol.  Mae’n gwneud hyn drwy gael gwledydd ar draws y byd i gydweithredu ar raglenni addysgol, gwyddoniaeth a diwylliannol.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Statws Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru a safleoedd Treftadaeth y Byd eraill ar wefan UNESCO.

Oes, mae hyn yn brawf o bwysigrwydd hanesyddol Cymru.  Mae mwy o wybodaeth ar y linciau yma:  

  • Mae Cestyll Edward 1af yn esiampl o bensaernïaeth trefedigaethol milwrol hyderus.  Mae un ohonynt sef   Castell Caernarfon wedi ei leoli yn union y drws nesaf i’r Cei Llechi o ble cafodd miloedd o dunelli o lechi eu hallforio i bedwar ban byd.  Daeth yn Safle Treftadaeth Byd yn 1986

  • Cafodd safle Gweithfeydd Dur Blaenafon ger Y Fenni ei restru yn 2000 oherwydd ei gyfraniad enfawr i’r Chwyldro Diwydiannol.  

  • Cafodd Dyfrbont Pontcysyllte ger Wrecsam ei chynllunio gan Thomas Telford. Ar ôl iddi gael ei chwblhau yn 1805, hon oedd y dyfrbont uchaf ar gyfer cychod camlesi yn y byd. Daeth yn Safle Treftadaeth Byd yn 2009. 

Cyngor Gwynedd wnaeth arwain y cais mewn partneriaeth efo Cadw, Llywodraeth Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Prifysgol Bangor, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Amgueddfa Lechi Cymru.  

Ffurfiodd y partneriaid Grŵp Llywio a dau is-grŵp.  Mae un is-grwp yn gyfrifol am gynllunio, cadwraeth a rheolaeth, a’r llall yn gyfrifol am ddatblygu economaidd. Mae arbenigwyr ym meysydd treftadaeth, cadwraeth, ymgysylltu a chysylltiadau cyhoeddus yn gweithio ar dasgau penodol. Grŵp bychan o adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd, Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru sydd wedi rheoli’r prosiect yn arwain at y dynodiad. 

Roedd datblygu’r cais yn flaenoriaeth strategol gan Gyngor Gwynedd, sydd wedi bod yn gyfrifol am arwain ar y cais. Mae pob un o’r partneriaid yn y fenter wedi cyfrannu yn ariannol neu trwy ddulliau ymarferol ac mae nawdd wedi ei dderbyn gan Gyngor Gwynedd trwy gynlluniau megis Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cronfa Eryri, Arloesi Gwynedd Wledig a’r Undeb Ewropeaidd.  Mae Partneriaeth Llechi Cymru, sef grŵp sydd yn cynrychioli'r sector gyhoeddus, breifat a gwirfoddol oddi mewn i’r diwydiant, wedi darparu cefnogaeth arbenigol sylweddol a pheth cefnogaeth ariannol. 

Mae’n esiampl eithriadol o dirwedd diwylliannol wedi ei ffurfio gan ganrifoedd o gloddio, gweithio a chludo llechi i farchnadoedd byd-eang. Dyma ein Datganiad o Werth Rhyngwladol Eithriadol. Mae’r tirwedd llechi yn arddangos pob elfen perthnasol o’r diwydiant yn weladwy, yn ddarllenadwy ac yn hygyrch:

  • Cloddio – chwareli a cheudyllau

  • Prosesu – melinau llechi, gwaliau, gweithfeydd

  • Cludo – rheilffyrdd, porthladdoedd, tramffyrdd 

  • Anheddau – cymunedau a thai pherchnogion, addoldai, llyfrgelloedd ac ysbytai 

  • Defnydd terfynol –toi, cerrig beddi, crawiau, addurno 

  • Y trawsnewid o gymdeithas amaethyddol i un diwydiannol

  • Atgyfnerthu diwylliant lleiafrifol gan ddiwydianeiddio rhyngwladol

  • Allforiwr mwya’r byd yn ystod canol y 19eg Ganrif

  • Trosglwyddo technoleg, arbenigedd a phobl i’r byd 

Amddiffyn, cadw, gwella a chyfleu priodweddau pwysig yr ardal er mwyn atgyfnerthu hynodrwydd diwylliannol a chryfhau’r iaith Gymraeg, a dod yn sbardun pwysig i adfywio economaidd a chynhwysiad cymdeithasol

  • Economi ranbarthol ffyniannus

  • Cymunedau hyfyw a byw yn falch o’u cymuned a’u treftadaeth

  • Cyflogaeth medrus o ansawdd uchel

  • Sector twristiaeth gwerth uwch, trwy’r flwyddyn 

  • Parhad y diwydiant llechi

  • Tirwedd gynaliadwy a byw  

  • Dathlu rôl ein treftadaeth llechi yn y byd

  • Diogelu a gwella treftadaeth ffisegol

2009  - Cyflwyno cais Llechi Cymru i Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) Llywodraeth San Steffan.

2009 – Llywodraeth San Steffan yn rhoi’r cais ar restr betrus o safleoedd posib. 

2012 – Y rhestr betrus yn cael ei gyflwyno i UNESCO. 

2010 i 2015 -  Y partneriaid yn gweithio ar werthusiad technegol o’r cais. 

2015 - Cyflwyno’r gwerthusiad technegol i DCMS i’w ystyried gan banel o arbenigwyr. 

2018 – Cyhoeddi mai’r cais yma fyddai’r nesaf i’w chyflwyno i UNESCO gan DCMS 

2019 - Cabinet Cyngor Gwynedd yn cymeradwyo’r enwebiad terfynol a chafwyd sêl bendith DCMS.

Ionawr 2020 - Cyflwyno’r enwebiad terfynol i UNESCO.

Medi 2020 - Ymweliad safle manwl gan un o arbenigwyr UNESCO. 

Gorffennaf 2021 – Cyhoeddi bod y cais yn llwyddiannus.

Mae cynhyrchu a mabwysiadu Cynllun Rheolaeth yn un o ofynion UNESCO. Mae’n cynnig fframwaith cyffredinol o amcanion. Cafwyd ymgynghoriad ar y Cynllun Rheolaeth drafft yn ystod mis Awst / Medi 2019. Mae’r sylwadau yna wedi eu bwydo mewn i’r cynllun terfynol sydd bellach wedi cael ei gyflwyno i UNESCO fel rhan o’r cais. Mae 5 thema o fewn y Cynllun Rheolaeth:

  • Llywodraethu a Rheoli,  

  • Gofalu am Dirwedd Llechi,  

  • Datblygiad Cynaliadwy,  

  • Mwynhau Tirwedd Llechi,  

  • Dysgu am Dirwedd Llechi 

Yn ogystal, bydd cynllun rheolaeth lleol yn cael ei baratoi ar gyfer pob elfen o fewn y Safle Treftadaeth y Byd. 

Ni fydd y dynodiad yn ychwanegu cyfyngiadau cynllunio ychwanegol i’r polisi cynllunio Cyfredol.  Mae safleoedd treftadaeth y byd dynodedig ac arfaethedig yn ystyriaeth cynllunio materol o fewn polisïau cynllunio Gwynedd. Mae Canllaw Cynllunio Atodol wedi ei ddatblygu er mwyn perthnasu polisi cynllunio i ardal yr Dynodiad.

Bydd Cynllun Rheoli Cyrchfan newydd yn cael ei ddatblygu yn fuan gan Cyngor Gwynedd.  Bydd yn edrych ar reoli twf twristiaeth yn gynaliadwy ac yn synhwyrol, ynghyd a chefnogi cymunedau cynaliadwy a byw yr un pryd. Rydym yn gobeithio bydd yr enwebiad yn denu ymwelwyr sydd â diddordeb penodol mewn treftadaeth, ac mae astudiaethau’n profi bod y rhain yn ymwelwyr sy’n tueddu i ymweld tu allan i gyfnodau gwyliau traddodiadol, a’u bod yn tueddol o wario mwy yn ystod eu hymweliad. 

Mae model prif ganolfan a lloerennau wedi ei ddatblygu gennym er mwyn symud ymwelwyr o gwmpas yr ardal, a thynnu’r pwysau oddi ar y prif safleoedd traddodiadol, ac hefyd er mwyn lledaenu’r budd economaidd. Mae’r Strategaeth ddehongli yn annog ymwelwyr i ‘ddilyn y stori’ o amgylch yr ardal, a thu hwnt i ffiniau’r Safle Treftadaeth y Byd mewn modd diogel ac i safleoedd hygyrch. 

Mae’r iaith Gymraeg yn thema llorweddol trwy’r ddogfen enwebiad ac yn cael ei adnabod yn y Cynllun Rheolaeth.

Ni fydd yn cynyddu mynediad gyhoeddus ar draws y safle, ac felly ni fydd yn ychwanegu baich ar dirfeddianwyr i warchod/cadw strwythurau. Nid yw bod o fewn ffin Safle Treftadaeth y Byd yn golygu fod rhaid caniatáu mynediad i bob rhan o’r safle.

Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru heb os yn hynod ddiddorol, ond yn ôl ei natur yn medru bod yn anghysbell, peryglus a heriol.  Mae cyfran sylweddol o’r tirwedd o fewn perchnogaeth preifat ac mae rhywfaint o hyn ar dir ble nad oes caniatâd i fynediad cyhoeddus.  

Cyn i chi gychwyn allan i archwilio’r tirwedd llechi, gofynnwch i chi eich hunain, oes gen i’r hawl i ymweld a’r safle?  Oes gen i’r offer cywir?  Ydw i’n gwybod sut fydd y tywydd?  Ydw i’n hyderus fod gen i’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y diwrnod?  Ewch i Mentro'n Ddiogel er mwyn darganfod sut i fwynhau eich ymweliad yn ddiogel. 

Er nad oes arian ychwanegol yn dod yn uniongyrchol gyda’r Dynodiad, rydym yn gobeithio bydd grwpiau yn medru gwneud defnydd o'r statws wrth gyflwyno ceisiadau grant.

Mae Digwyddiadau cymunedol wedi eu cynnal ar draws ardal y dynodiad dros y blynyddoedd diwethaf, erthyglau cyson yn Newyddion Gwynedd sydd yn cael eu danfon i bob cartref yng Ngwynedd a cynhaliwyd sesiynau ymgynghori ar Gynllun Rheoli Drafft yn ystod mis Awst - Medi 2019 trwy sesiynau galw i fewn a hefyd cyfle i gwblhau holiadur ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd.  

Mi rydym yn ogystal wedi cynnal sawl digwyddiad gwybodaeth ar lein ac mae sawl grŵp cymunedol yn cael eu cynnwys yn ein gwaith.

 

Name 

Size in inches 

Name 

Size in inches 

Empresses 

26 x 16 

Princes 

24 x 14 

Duchesses 

24 x 12 

Small Duchesses 

22 x 12  

Narrow Duchesses 

22 x 11 

Wide Countesses 

20 x 12 

Countesses 

20 x 10 

Small Countesses 

18 x 10  

Viscountess 

18 x 9 

Wide Ladies 

16 x 10 

Large Ladies  

16 x 9 

Ladies 

16 x 8 

Small Ladies 

14 x 8 

Narrow Ladies 

14 x 7 

Double Slates 

12 x 6 

Single Slates 

10 x 5