Sail Ysbrydoliaeth
Mae’r dirwedd llechi a’r ardaloedd chwarelyddol wedi ysbrydoli llawer bardd dros y blynyddoedd, dyma rhai ohonynt sy'n llai adnabyddus, wedi eu casglu o hen bapurau newydd y cyfnod. Cyflwynir y casgliad fel recordiadau sain a ffilmiau byrion.
Casgliad
Llechi'r Post, Waunfawr, gan J H THOMAS
Darlleniad gan Alun Fon Williams.
Llechi’r Post gan J H THOMAS, Cwm Bychan, Betws Garmon. (Buddigol yn Eisteddfod Waun Fawr) Dyfyniad a cherdd o bapur newydd yr Herald Cymraeg 23/05/1938.
“Bu’r llechi o flaen llythyrdy y Waun Fawr am flynyddoedd lawer, i gadw hawl y tŷ o’r briffordd, a buont yn brif le i’r ieuainc a’r canol oed i gyrchu at ei gilydd i adrodd hanesion, a thrin pethau’r byd, ac yn enwedig ar nos Suliau i ganu emynau. Erbyn heddiw mae’r llechi gleision wedi myned o’r golwg a choncrit llwyd wedi ei roi yn eu lle. Nid oes neb yn sefyll yna heddiw ond am ychydig funudau i ddisgwyl y moduron am dref Caernarfon. Ni wyr y plant sy’n codi yn awr am ‘Lechi’r Post’ mwy nag am feini ‘Mynachlog Ystrad Fflur’”.
Mae anodd canu can
i’r testun, coeliwch fi,
Mae’r llechi gleision glan,
O’r golwg rhag y lli’;
Os bwriai gawod yn y nos
Fe safai’r dwr ar “Lechi’r Pos”.Rhyw law fu yn eu rhoi,
Ynghol blynyddoedd maith,
Cael chwarae fel y gwynt
Ar hyd y llechi llaith,-
A chuddio weithiau gyda’r nos
O dan ffenestri yr hen Bos’.Mi glywais ganu mawl,
Emynau dwyfol Duw,
A chennyn ni ‘rioed hawl,
Mewn oes oedd werth i fyw,
I gyrchu tua “Llechi’r Pos”
Yn dyrfa ddifyr gyda’r nos.Bu yno lawer bardd,
Yn adrodd gwaith ei hun,
A llawer llencyn hardd,
Yn disgwyl am ei fun;
Ond erbyn heddiw nid oes un
Yn sefyll yno wrtho’i hun.Er fod y cyfnod hwn,
Yn gwella’r ardal lan,
Mae llawer dan eu pwn,
Yn methu canu can;
A’r llechi gleision wedi mynd,
I ffwrdd i ganlyn llawer ffrynd.Fe fagwyd llanciau llon
O gylch hen “Lechi’r Pos”,
Mae llawer dros y don,
Yn huno ger y ffos,-
Ac eraill yn y Waun o hyd,
Ym merw amgylchiadau’r byd.Sawl llythyr ddaeth ar hyd Y llechi yn eu tro?
A sawl cyfrinach fud,
Anfonwyd i'r hen fro?
Ac ambell un yn llythyr llaith,
Am rywun wedi cefnu’r daith.Mi welaf dyrfa lan,
Ar balmant yr hen Bos’.
Yn ddifyr gyda’u can,
I’n llonni gyda’r nos;
Mae’r plant sydd heddyw’n mynd i'r dre,
A’r gwynt yn chware yn eu lle.J H THOMAS
Chwarelau Ffestiniog gan ISALLT (Dr Robert Roberts 1839-1914)
Darlleniad gan Arwel Gruffydd.
Chwarelau Ffestiniog, glws haenau glas enwog,
At dywydd gwlyb tesog, dwf lechog do clos;
O fwrw diferyn, ni esgyn well plisgyn,
Wna’n gorn i dyddyn mwy diddos.Gwell i chwi gael llechen i'w dodi’n glyd aden,
Mandesiog yw’r fricsen a’r deilsen yn do;
Ebrwyddod rhy’r priddyn a’r gawodau;ceir gwedyn
Pob defnyn glaw trwyddyn yn treiddio.Y Parc enwir gynta, Mr Kellow a’i gweithia,
Ei rwbel adawa’n ei chylla, fodd chwith,
Ond yng nghroesa ei llechen, a’i beiriant di-angen
Ail mellten yn drylen y’i drilith.Pant Mawr yw Mwlch Stwlan,Y Rhosydd, a’r Wrysgan,
Cwmorthin, Nyth y Gigfran, yn hepian mae hi,
Yr Oakeleys tri uchder, Top, Middle a Lower,
Tan ddaear y gweithier eu gwythi.O’r Llechwedd y lluchir fyth gyfoeth a gefir,
Ei llechfaen ddarperir, ddadfrigir i'r fro;
Y Foty a Bowydd, lle caed y faen newydd,
Ro’dd gynnydd drwy’r gweithydd i'w gweithio.Y Diffwys, Maenofferen, Graigddu, Bwlch y Slaten,
(Dwy weithia yng ngwythen ’r un deisen o dir)
Rhiwbach, a Rhiw Fachno, Cwt’bugail daw eto,
Pen Ffridd, oll yn gryno geir enwir.Na’r Moelwyn aed heibio, ond enwi raid honno,
Na’r C’dwalad, fy meio a nwrdio wna e’;
Y Drum, Croesddwyafon, a Chwarel y Foelgron,
Sy heb weithio, ’n gobeithio gwell pethe.Un atynt gawn eto - Y Gonglog yw honno,
Fel ’r oll fu’n anturio a llunio cael llog;
A’i cherrig i'w cario, a relwe i'w hwylio,
A’u llwytho a’u mudo i Borthmadog.ISALLT
Galarnad y ceir gwyllt, gan John Owen
Darlleniad gan Gai Toms.
Mae popeth bron yn newydd
Ar fynydd ac ar fôr,
Tra'n hen yn unig erys
Mewn hanes yn ystor;
Yn dilyn dydd galarnad
"My Lord" am ride and drive,
Daeth diwedd car y gweithwyr
Yn eighteen nintey-five.Yn iach gerbydau gwylltion,
I'ch cicio ac i'ch troi;
Mae'ch enwau drwy'r alarnad
Mewn irad wedi'u rhoi;
Ffarwel i "Garibaldi"
"Eryri," a'r "Pry Llwyd,"
Y "Gaseg,"gyda'r "Ebol,"
Fu'n mynd heb fol na bwyd.Mae "Vivian,""George," a "Gladstone,"
A "Livingstone" a "Stag,"
A "Picton" hefo "Nelson,"
A "Samson" i gael sag;
Caiff "Jennie Bach" a "Hobley"
O'r neilltu fynd am byth;
Ffarwel 'run ffordd a "Snowdon,"
"Victoria," "Llew," a Smith."Ta-ta'r hen "Sian" a "Peris"
"Tom King," a'r "Marquis" mawr,
Gan uno "Albert," "Ashton."
A "Wellington" i lawr;
Tra'r "Prince Llywelyn," yntau,
A'r llanciau ym mhob llun,
Fe'u cwympir rhag yr ager
I'r gwter bob yn un.Wrth ildio cicio'r "Cacwn"
Ffarweliwn heb un ffrae;
Tra'r rhown i fyny'r "Vaynol"
Ar goll i Chwarel Cae;
A thithau yr hen "Fules,"
Hudoles plant y plwy',
Mae'th enw i'w anwylo-
Ffarwel i'th gicio mwy.Er cof am "Fox" a "Timbol,"
A "Blondin" gyda blas,
"Meredydd," "Bright," a "Stanley"
A "Foli," car y bass;
"Dinorwig" a "Pandora,"
A'r "Wylfa" ddaw i lawr,
"Caradog," "Madog," "Menai,"
Ta ta i'r fintai fawr.Yn olaf rhaid ffarwelio
A'r hen "Falwoden Lwyd,"
Ni welwyd mewn bodolaeth
Ei bath am gario bwyd;
O oes ryw enw arall
Heb gael ei ddwyn ar 'go,
Wel, rhowch y bai i ddisgyn
Ar fechgyn Cwm-y-Glo.Fe dderfydd Panorama
Yr yrfa gyda hyn,
Ni welir mwy eu cysgod,
Lle hynod yn y llyn;
Gan fynd a'u pennau i waered,
A'u traed wrth draed yn cwrdd,
Ac oll fel dwbl fintai
Yn ffoi o chwith i ffwrdd.Hwre i dren y gweithwyr,
Ac i'r boneddwr mad
A'i mynnodd er ein mwyniant,
Teilyngant glodydd gwlad;
Fel hyn mae'r byd a'i bethau
Yn rhwydd fyrhau ein hynt,
Gan fyned ar olwynion
I'r pen yn gynt, yn gynt.AP GLASLYN.
Herald Gymraeg
19/05/1947
Gorsedda, gan W M Hughes
Darlleniad gan Iestyn Tyne.
STANZAS Composed to a new Slate Quarry, called Gorsedda, in the vicinty of Cwmtsrellyn, near Tremadoc, on the property of R.M Griff, Esq., Bangor. THE NORTH WALES ADVERTISER FOR THE PRINCIPALITY OF BANGOR 25/02/1853
Caf waith i ŵr cyfoethog-er ffyniant,
Ar ffiniau Tremadog.
Ac yn lawn troi cân llog
Gwneir yno gan arianog.Agor gwaith bywiogir gweithiwr ei dal,
Fydd deg i chwarelwr;
Ni feth gwaith cyfaethog ŵr,
Try lesiant i arloeswr.Cloddir nes dryllir Cwmstrellyn- i achos
Y llechi ymofyn;
Troi moelydd at aur melyn,
Llwch aur yw y llechi hyn.goluddion y gleddwig - y gweithir
Pob gwithen o gerig;
Tan hir brawf tynir brig-i'r pwrpas,
Nes trimio'n addas y tir mynyddig.Tori cymaint or cwmwd - am lechi,
Ar deml uchel nenfwd;
Yno effro bydd siffrwd
A gloywir eirf rhag ol rhwd.Troi sylw at drosolion - i hollti
Hylldod byd o blygion,
A churo'i lawr y chwarel hon
O'i chanol gyda chynion.Mewn tafell bydd well ebillion - i grai
Fydd thy gref i gynion;
O tan y creigiau tynion - rhoir pylor,
Hwynt wrth eu hagor ga'nt doraeth ddigon.Yna cario y cerig - i waliau,
O waelod y gleddwig,
A'u didol yn nodedig - gan holltwr.
Tra mae naddwr mewn tir mynyddig.Yno tynir cartwyni - i gario
Y rhagorol lechi ;
A miliwn yn mlaen a hi—o'r newydd,
I weithio'r mynydd i lwytho'r meini,Llongau i byrth pell eang byd – cariant
Y cerig yn ddiwyd;
Am arian o'u cymeryd
Toir yn glws bob tre'n glyd.Daioni cyffredinol - a ddeilliodd
Allan yn bresennol;
Addewir yn foddhaol
Na bydd wyneb neb yn ol.Yn addfwyn yn y gloddfa - chwarelwyr,
Gwnewch y rheol yma;
A thrwy deg pob gweithiwr da
A gàr swyddwr Gorsedda.W M HUGHES.