Tirwedd Fynyddig Chwarel Dinorwig

“Yn wyneb pob caledi

Y sydd neu eto ddaw

Dod gadarn gymorth imi

I lechu yn dy law”

Rhan o emyn 71, Llyfr Emynau a Thonau y Methodistiaid Calfinaidd, 1929. Canwyd yn ystod streiciau a ralïau Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru

Elfennau nodweddiadol a mynediad cyhoeddus

Rhestrir isod elfennau nodweddiadol sy’n rhan o’r ardal Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, a cysylltau i wybodaeth am fynediad cyhoeddus:

Datganiad ar ddiogelwch ymwelwyr

Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru heb os yn hynod ddiddorol, ond yn ôl ei natur yn medru bod yn anghysbell, peryglus a heriol. Mae cyfran sylweddol o’r tirwedd o fewn perchnogaeth preifat ac mae rhywfaint o hyn ar dir ble nad oes caniatâd i fynediad cyhoeddus.

Cyn i chi gychwyn allan i archwilio’r tirwedd llechi, gofynnwch i chi eich hunain, oes gen i’r hawl i ymweld a’r safle? Oes gen i’r offer cywir?  Ydw i’n gwybod sut fydd y tywydd? Ydw i’n hyderus fod gen i’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y diwrnod? Ewch i Mentro'n Ddiogel er mwyn darganfod sut i fwynhau eich ymweliad yn ddiogel.

 
Dinorwig
© Hawlfraint y Goron: CBHC

Chwarel Dinorwig ydi canolbwynt yr ardal yma. Mae’r cyfan o’r tirwedd yn wirioneddol ryfeddol, ac yn ogoneddus o hardd. Mae’r Wyddfa gerllaw, a llynnoedd Padarn a Pheris, efo Castell Dolbadarn yn gwylio’r Dyffryn ers y 13eg ganrif. Fel yn Nyffryn Ogwen, cyfoeth perchennog tir aristocrataidd oedd yn sylfaen ar gyfer datblygiad y chwarel. Teulu'r Faenol yn yr achos yma - teulu Assheton Smith, Duff yn ddiweddarach. Cafodd sgweiar y Faenol yr hawl i feddiannu’r tir yn 1806 gan ei gyfeillion yn y Senedd yn San Steffan.

Dinorwig
© Hawlfraint y Goron: CBHC

Chwarel Dinorwig

Chwarel Dinorwig oedd yr ail fwyaf yn y byd, ar un adeg. Fe’i gweithiwyd rhwng 1787 a 1969. Mae dros 30 o bonciau yma, gyda’u tomennydd rwbel. Mae pob un wedi eu cysylltu drwy un o’r rhwydwaith o inclenau sydd yn nodwedd mor amlwg o’r chwarel, a defnyddiwyd y rhain hyd at y diwedd. Ar ôl cau yn 1969, prynwyd y safle’n fuan gan y cwmni a ddatblygodd gynllun trydan dwr yma. Golygodd hynny fod y rhan fwyaf o’r strwythurau wedi goroesi. Mae Ponc Australia, efo’i felin anferthol, a’i sustemau gyriant trydanol o’r 1920’au, yn esiampl dda.

Dinorwig Incline
© Hawlfraint Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd Archaeological Trust Copyright
Australia Mill
© Hawlfraint Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd Archaeological Trust Copyright

Gweithdai Gilfach Du

Mae gweithdai peirianyddol taclus Gilfach Ddu, efo’u holwyn ddŵr anferthol, yn arwydd o hyder a balchder. Roedd y pwer ar gyfer y cyfan o’r adeilad yn cael ei gynhyrchu gan yr olwyn ddŵr mwyaf sydd wedi goroesi ar diroedd Prydain - ac mae’n dal i droi. Mae’r adeiladau, a’u cynnwys, yn drysorfa o’r peirianwaith, y sgiliau a’r adnoddau oedd eu hangen i weithredu a chynnal chwarel fawr. Ail-agorwyd y gweithdai peirianyddol yn Gilfach Du fel un o ganghennau Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1972. Yma, gallwch weld arddangosfeydd o sgiliau hollti a naddu llechi, ac un o inclenau Chwarel Vivian mae’r Amgueddfa wedi adfer. Hefyd mae cyfle i fwynhau taith ar drên stem Rheilffordd Llyn Padarn, ar ran o lwybr ail reilffordd (1840’au) y Chwarel.

Slate Museum
© Hawlfraint y Goron: CBHC

Symud Llechi

Ar y cychwyn, defnyddiwyd sustem o lonydd pwrpasol ar gyfer cludo’r llechi. Roedd y lonydd yn arwain at lannau Llyn Padarn, ac wedyn at lannau’r Fenai.

Road Gefnan
© Hawlfraint y Goron: CBHC

Roedd arloesi yn bwysig, ac yn 1825, agorwyd y rheilffordd cyntaf, tebyg ei chynllun i reilffordd 1801 Chwarel Penrhyn. Yna, yn y 1840’au, adeiladwyd rheilffordd llawer mwy soffistigedig ar hyd glan Llyn Padarn. Hon fyddai’r cyntaf yn ardaloedd y chwareli i ddefnyddio injans stêm. Roedd y peirianwyr wedi dysgu am y dechnoleg wrth weithio efo’r enwog Robert Stephenson ac Isambard Brunel.

DQRAP
© Hawlfraint y Goron: CBHC

Byw a Bod

Sefydlwyd pentrefi poblog, llawn cymeriad o amgylch y Chwarel. Wrth y lôn arweiniai i rannau uchaf y Chwarel, trefnwyd plotiau o dir i’w lesu ar gyfer codi cartrefi i’r chwarelwyr. Mae llwybr y lôn, ac yna'r rheilffordd gyntaf, wedi arwain at ffurfio pentrefi Deiniolen a Chlwt y Bont. Tai rhydd, di-brydles, sydd yma, heb fod dan ddylanwad y Faenol. Ond byddai’r eglwys Gothig gerllaw yn atgof cyson o’r dylanwad hwnnw.

Deiniolen Rhes Fawr
© Hawlfraint Richard Hayman Copyright

Roedd y chwarelwyr oedd yn teithio o bell, er enghraifft, o Sir Fon, yn aros mewn “barics”. Dyma lun o barics y Dre Newydd, a ddefnyddiwyd tan 1937.

Anglesey Barracks
© Hawlfraint y Goron: CBHC

Ysbyty

Adeiladwyd yr Ysbyty mewn lleoliad amlwg uwchben Llyn Padarn. Roedd wedi ei chynllunio i ddangos dylanwad tadol Mr Assheton Smith. Byddai llawfeddygon y Chwarel yn gwneud defnydd hyderus o offer arloesol pelydr-X wrth drin gweithwyr oedd wedi eu brifo yn y chwarel.

Quarry Hospital
© Hawlfraint y Goron: CBHC

Craig yr Undeb

Yr agwedd dadol, lethol yma oedd yr her a wynebai’r dynion, wrth iddynt geisio ffurfio Undeb Llafur. Dyna pam roedd rhaid cyfarfod ym Mhenllyn; tir oedd ddim yn eiddo i berchennog chwarel. Yma y ffurfiwyd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru yn 1874, un o’r Undebau Llafur cyntaf yng Nghymru. Roedd brwydrau mawr o’u blaenau i sicrhau tegwch i’r gweithiwyr. Craig yr Undeb ydi enw’r llecyn yma erbyn hyn.

Craig y Undeb
© Hawlfraint y Goron: CBHC