Mapiau

Map Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru

Mae’r map yn amlygu y 6 lleoliad sydd yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd, yng Ngwynedd, sef;

  1. Dyffryn Ogwen
  2. Chwarel Dinorwig
  3. Dyffryn Nantlle
  4. Gorseddau a Bwlch y Ddwy Elor
  5. Ffestiniog a Phorthmadog
  6. Abergynolwyn a Thywyn

Gellir gweld delweddau ar y map sydd yn gysylltiedig a’r diwydiant, y tirwedd, a diwylliant a threftadaeth y bröydd chwarelyddol. Medrir defnyddio yr adnodd fel sail ysbrydoliaeth i annog dysgwyr i greu map creadigol eu hun, fel a welir yn yr esiamplau.

Map Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru
Map Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru - cliciwch ar y llun i llwytho i lawr

Esiampl

Esiampl Map Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru
Esiampl - cliciwch ar y llun i llwytho i lawr

Map Mordeithiau

Map Mordeithiau, sy’n amlygu’r porthladdoedd oedd yn cael eu defnyddio wrth allforio llechi o borthladdoedd Gogledd Orllewin Cymru, yn ogystal a thermau cysylltiedig a’r llongau, a’r offer a ddefnyddiwyd i’w adeiladu.

Gellir defnyddio'r map fel adnodd addysg ar lawr y dosbarth, ar sgrin wen rhyngweithiol. 

Cam wrth gam yn y dosbarth:

  1. Agor y cardiau sydd wedi eu grwpio i dri thema: Ymfudwyr, Llongddrylliadau, a Chludo nwyddau ar longau.
  2. Amlygu'r map 'Mordeithiau' ar sgrin y dosbarth.
  3. Dosbarthu'r cardiau.
  4. Gofyn i'r dysgwyr ymchwilio'r teithiau ar wefan 'Gwgl y Byd' neu fap cyffelyb.
  5. Dysgwyr yn amlygu 'r teithiau gyda ysgrifbin sgrin wen, rhannu a thrafod eu canfyddiadau.
Map Mordeithiau
Map Mordeithiau - cliciwch ar y llun i llwytho i lawr

 

Cardiau

Cliciwch ar y delweddau isod i lawrlwytho'r cardiau:

Ymfudwyr

 

Llongddrylliadau

 

Teithiau Llongau Llechi

'A fo ben bid bont'

Map sy'n amlygu'r ffyrdd, tramffyrdd a rheilffyrdd a ddefnyddiwyd yng nghyfnod chwareli llechi ardal Llanberis. Rhestrir ar y map enwau'r afonydd, pontydd, ceiri, clogwyni a'r coedydd sydd yn y fro. Dyfyniad o erthygl 1947, Yr Herald Gymraeg, gan LLOYD, ISAAC SAMUEL ('Glan Rhyddallt'; 1875 - 1961), chwarelwr, bardd, a llenor, sydd yn disgrifio'r dulliau gwahanol o gludo pobol a llechi o chwareli ardal Llanberis 1800-1940degau.

Map 'A fo ben bid bont'
Map 'A fo ben bid bont' - cliciwch ar y llun i llwytho i lawr

 

Cefn map 'A fo ben bid bont'
Cefn map 'A fo ben bid bont' - cliciwch ar y llun i llwytho i lawr

Testun map 'A fo ben bid bont'.