Llechi Cymru’n Rhoi To ar y Byd

Er bod llechi yn drwm, maen nhw hefyd yn werthfawr. Mae’n bosib gwneud elw o werthu llechi hyd yn oed ar ôl eu cario yn bell. Felly, roedd galw am lechi da o Gymru ar gyfer adeiladau o bob math ar draws y byd. Roedd llechi’n cael eu defnyddio ar gyfer cartrefi gweithwyr a phobol fawr, adeiladau dinesig, addoldai, banciau, ffatrïoedd, a stordai mewn porthladdoedd.

Worldwide slate exports from Wales 1882
© Hawlfraint Amgueddfa Cymru – National Museum Wales Copyright

Roedd defnydd llechi yn dilyn datblygiad ymerodraeth Prydain, a thwf dylanwad byd busnes Prydeinig. Byddai perchnogion nifer o chwareli’n arddangos eu cynnyrch mewn cystadlaethau rhyngwladol, ac yn ennill medalau am eu cynnyrch. Ffenest siop ardderchog!

Prydain ac Iwerddon

Terraced Housing
© Hawlfraint Gwasanaeth Archifau Historic England Archive Copyright

Rhwng 1793 a 1815 roedd rhyfel efo Ffrainc wedi effeithio faint o lechi oedd yn cael eu hallforio. Felly, Prydain ac Iwerddon oedd prif farchnad llechi Cymru’r adeg yna.  

Gogledd Ewrop

Copenhagen
Chris Brown CC Creative Commons

Yn dilyn tân ddinistriol yn ninas Hamburg, yr Almaen, yn 1842 fe ddatblygodd chwareli ardal Ffestiniog  fusnes cryf efo’r ddinas honno, a hefyd trwy borthladd Szczecin, yng ngwlad Pwyl. 

Gogledd America

Slate Roof House Philadelphia
© Hawlfraint Cymdeithas Hanes / Historical Society of Pennsylvania Copyright

Defnyddiwyd llechi ar hyd arfordir dwyreiniol America ers y 17eg ganrif. Erbyn 1830, roedd toeau llechi ar tua hanner adeiladau Efrog Newydd.

Jamaica

Wyddo chi fod archeolegwyr yn Jamaica wedi darganfod olion o lechi mewn adeiladau trefedigaethol y wlad honno? Prawf o gysylltiad â dylanwad teulu’r Penrhyn, yn sicr.

Awstralia

North Adelaide Friends Meeting House
Denisbin CC Creative Commons

Chwareli Penrhyn a Dinorwig ddatblygodd y busnes efo Awstralia, efo ardal Ffestiniog yn dilyn yn ddiweddarach. To o lechi Cymru a osodwyd ar dŷ cwrdd y Crynwyr yn Adelaide yn 1840. Roedd llechi’r Penrhyn wedi eu hyrwyddo mewn arddangosfeydd yn Sydney a Melbourne yn 1879 a 1880. Yn ystod y rhuthr i gloddio aur yn ardal Victoria, Awstralia, yn 1851, danfonwyd tai cyfan - wedi eu gwneud o slabiau llechfaen o Gymru - ar gyfer defnydd lleol. 

Allforio Heddiw

Mae’r cysylltiad rhyngwladol yma yn parhau. Mae chwareli cyfoes Penrhyn a Chwt y Bugail (Ffestiniog) yn cyflenwi llechi ar gyfer gwaith cadwraeth ac ail-adeiladu. Ac mae penseiri mewn gwledydd ar draws y byd yn dewis llechi’r chwareli yma ar gyfer adeiladau newydd, urddasol, sy’n gwbl gyfoes eu cynllun.

‘Theseus’ yn cael ei llenwi efo aggregad yn Porth Penrhyn 31 Ionawr 2021
‘Theseus’ yn cael ei llenwi efo agregau llechfaen yn Porth Penrhyn 31 Ionawr 2021

Busnes rhyngwladol arall sydd yn parhau i ddatblygu ydi gwerthu agregau llechfaen. Mae llongau masnachol yn llwytho ym Mhorth Penrhyn, gan gludo’u llwythi i borthladd Rotterdam, yn yr Iseldiroedd.