Dynodiad

Llun clawr dogfen enwebu

 

Cymru oedd y Genedl ddiwydiannol gyntaf yn y byd. Mae treftadaeth ddiwydiannol yn rhan bwysig o hanes Cymru. Y diwydiant llechi ydi diwydiant eiconaidd gogledd Cymru. Roedd yn bwysig iawn o ran ffurfio ein tirlun cymdeithasol ac economaidd. Mae cynnyrch y diwydiant llechi yn un o’r deunyddiau adeiladu mwyaf cyffredin o un ffynhonnell. Cafodd ei allforio i bob cyfandir. Llechi Cymru roddodd do i’r Chwyldro Diwydiannol.

Roedd mwy na llechi yn cael ei allforio. Bu chwareli Gwynedd yn allforio gweithwyr, eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u technoleg. Roedd y rheilffyrdd cul yn rhan hanfodol o'r diwydiant ac fe gafodd eu llwyddiant a’u cynllun eu hefelychu ar hyd a lled y byd. Roedd chwarelwyr Gwynedd hefyd yn barod i arloesi drwy ddysgu am syniadau o ardaloedd a gwledydd eraill.

Gweledigaeth y Dynodiad

Amddiffyn, cadw, gwella a chyfleu priodweddau pwysig yr ardal er mwyn atgyfnerthu hynodrwydd diwylliannol a chryfhau’r iaith Gymraeg, a dod yn sbardun pwysig i adfywio economaidd a chynhwysiad cymdeithasol.

Amcanion y Dynodiad

  • Economi ranbarthol ffyniannus
  • Cymunedau hyfyw a byw yn falch o’u cymuned a’u treftadaeth
  • Cyflogaeth medrus o ansawdd uchel
  • Sector twristiaeth gwerth uwch, trwy’r flwyddyn
  • Parhad y diwydiant llechi
  • Tirwedd gynaliadwy a byw
  • Dathlu rôl ein treftadaeth llechi yn y byd
  • Diogelu a gwella treftadaeth ffisegol

Dyma pam y penderfynwyd enwebu Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn Safle Treftadaeth Byd. Mi roedd y broses enwebu yn hir a chymleth efo pawb yn mwynhau’r cyd-weithio.

Steering Group

Tystebau

Wrth gyflwyno’r Enwebiad yn 2020, nododd y Gwir Anrhydeddus Helen Whately, Cyn-Weinidog ar gyfer y Celfyddydau, Diwylliant a Thwristiaeth:

“Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn llwyr haeddu’r anrhydedd hynod hon am ei gyfraniad i’r casgliad eithriadol o safleoedd sy’n ffurfio treftadaeth ddiwydiannol o bwys rhyngwladol yn y Deyrnas Unedig”

Eglurodd y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru:

“Mae’r Enwebiad tirwedd diwylliannol hwn yn cynhrychioli un o weithgareddau mwyaf hynafol a sylfaenol bodau dynol – echdynnu a gweithio carreg.”

Dywedodd Cadeirydd y Grŵp Llywio, y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Wigley o Gaernarfon:

“Dyma enghreifftiau gwych o gymunedau o’r oes ddiwydiannol, ond mae iddynt hefyd gymeriad Cymreig unigryw.”

Amserlen y Dynodiad:

2009 - Cyflwyno cais Llechi Cymru i Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) Llywodraeth San Steffan.

2009 – Llywodraeth San Steffan yn rhoi’r cais ar restr betrus o safleoedd posib.

2012 – Y rhestr betrus yn cael ei gyflwyno i UNESCO.

2010 i 2015 - Y partneriaid yn gweithio ar werthusiad technegol o’r cais.

2015 - Cyflwyno’r gwerthusiad technegol i DCMS i’w ystyried gan banel o arbenigwyr.

2018 – Cyhoeddi mai’r cais yma fyddai’r nesaf i’w chyflwyno i UNESCO gan DCMS.

2019 - Cabinet Cyngor Gwynedd yn cymeradwyo’r Enwebiad terfynol a chafwyd sêl bendith DCMS.

Ionawr 2020 - Cyflwyno’r Enwebiad terfynol i UNESCO.

Medi 2020 - Ymweliad safle manwl gan un o arbenigwyr UNESCO.

Gorffennaf 2021 – Cyhoeddi bod y cais yn llwyddiannus.