Y Cais (Enwebiad) a'r Cynllun Rheolaeth

YR CAIS (ENWEBIAD)

Er mwyn ymgeisio am statws Safle Treftadaeth y Byd, mae’n ofynnol cyflwyno cais, neu ddogfen enwebiad, i UNESCO.  Mae’r cais yn mynd trwy broses asesu trwyadl er mwyn sicrhau fod y safle yn cwrdd a gofynion UNESCO ar gyfer ei ddynodi.

Mae’r cais wedi ei seilio ar ddatganiad o werth rhyngwladol eithriadol; hynny yw, pam fod ein tirwedd llechi yn bwysig i’r Byd!

Mae’n enghraifft eithriadol o dirwedd ddiwylliannol ddiwydiannol, a ffurfiwyd trwy chwarelyddiaeth ar raddfa eang, ar yr wyneb ac yn danddaearol, a hefyd trwy drin llechi a’u cludo ar gyfer marchnadoedd cenedlaethol a rhyngwladol. Roedd y diwydiant hwn, yn arbennig pan oedd yn ei anterth rhwng 1780 a 1940, yn ben ar gynhyrchu llechi to yn fyd eang; fe ddylanwadodd ar agor chwareli a chloddfeydd llechi ledled y byd yn sgil trosglwyddo technoleg a sgiliau; ac fe weddnewidiodd yr amgylchedd a’r ffordd o fyw i’r rhai hynny a oedd yn byw ac yn gweithio ym mynyddoedd Eryri.

Nantlle Valley Quarry Landscape
© Hawlfraint y Goron: CBHC

Mae’r Ddogfen Enwebiad yn cynnwys:

  • Crynodeb gweithredol
  • Adnabod yr Eiddo
  • Disgrifiad
  • Cyfiawnhad dros Arysgrifio (noder nad yw criteria v bellach yn rhan o’r cais)
  • Statws Cadwraeth a Ffactorau yn Effeithio’r Eiddo
  • Gwarchodaeth a Rheolaeth yr Eiddo
  • Monitro
  • Dogfennaeth
  • Manylion Cyswllt a Awdurdodau Cyfrifol
  • Llofnod ar ran Plaid y Wladwriaeth

Gweld Y Ddogfen Enwebiad (pdf)

Llun Clawr Dogfen Enwebu

Y CYNLLUN RHEOLAETH

Ochr yn ochr â’r cais datblygwyd Cynllun Rheolaeth ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru. Mae’r Cynllun Rheolaeth yn egluro sut fydd y Cyngor a’i bartneriaid yn rheoli, gwarchod a datblygu’r Safle Treftadaeth Byd yn y dyfodol.

Mae’r Cynllun Rheolaeth yn:

  • Cyflwyno’r Dirwedd Ddiwylliannol a’r elfennau sydd wedi eu dewis ar gyfer y dynodiad.  Mae’n bwysig fod y rhain o “Werth Eithriadol Fyd-eang”. Dyna’r prawf oedd  rhaid bod yn siŵr ohono, bob tro.
  • Egluro ein gweledigaeth sef “Amddiffyn, cadw, gwella a chyfleu Gwerth Rhyngwladol Eithriadol Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru er mwyn atgyfnerthu hynodrwydd diwylliannol a chryfhau’r iaith Gymraeg, a dod yn ysgog pwysig i adfywio economaidd a chynhwysiad cymdeithasol”.
  • Egluro sut y byddwn yn rheoli’r Safle Treftadaeth Byd.
  • Egluro sut rydym yn bwriadu gofalu am y chwe ardal, a’r elfennau unigol. Mae polisïau cenedlaethol CADW yn bwysig, a pholisïau a threfniadau Adrannau Cynllunio Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri.
  • Esbonio fod cynaliadwyedd yn eithriadol bwysig i fywydau pawb ohonom. Nid creu amgueddfa o’r dirwedd ydi pwrpas sefydlu Safle Treftadaeth Byd. Rydym am weld y dirwedd yn parhau’n fyw,  a sicrhau bod cymunedau’n parhau’n fywiog.
  • Egluro sut y byddwn yn helpu’r bobl sy’n byw yma, a’r rhai sy’n ymweld, i fwynhau, profi a deall pwysigrwydd ein Safle.
  • Helpu pawb i ddysgu am y Safle. Mae hynny’n golygu rhannu, ac addysgu – mae cymaint i’w ddeall, ei werthfawrogi, a’i fwynhau gennym.

Pobl yn y Tirwedd Llechi

Mae’r Cynllun Rheolaeth yn cynnwys:

  • Rhagair
  • Rhagymadrodd
  • Geirfa
  • Cyflwyniad
  • Diben a Statws y Cynllun Rheolaeth
  • Y Dirwedd Ddiwylliannol – Gwerth Rhyngwladol Eithriadol a Phriodweddau
  • Y weledigaeth ar gyfer Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru
  • Thema 1: Llywodraethu a Rheoli
  • Thema 2: Gofalu am Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru
  • Thema 3: Datblygiad Cynaliadwy Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru
  • Thema 4: Mwynhau Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru
  • Thema 5: Dysgu am Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru
  • Cyfeiriadau
  • Cynllun Gweithredu 2020–2030

Gweld Y Cynllun Rheoli (pdf)

Clawr Y Cynllun Rheoli