Cyfres o storïau am fenywod hynod ac adnabyddus, oedd yn gysylltiedig a’r ardaloedd chwarelyddol:
- Elin Gruffydd
- Gweno Llwyd, Nansi Williams, a Betsan Williams
- Marged Fwyn Uch Ifan
- Gras y Garth (Grace Parry)
- Catherine Matthews
- Beti Ffowc
Elin Gruffydd - y cyntaf i gludo llechi
Cario a chewyll
Cludid y Llechi y pryd hwn gydag ystlys ddwyreiniol Ogwen tros y Rhiw Goch. Elid a hwy lawr mewn cewyll ar gefnau ceffylau, merlod, mulod, trwy Bantdreiniog, heibio Coetmor, Tal y sarn, a Maes y Groes, i Aber Ogwen; ac mor gul oedd y ffordd yr amser hwnw, nes byddai y cewyll yn curo y cloddiau o bobtu. Yr oedd nifer o merched bochgoch o 15 i 20 oed ar y maes y pryd hwn, yn myned a dyfod dan ganu a chwibanu i’r llongborth dan sylw gyda merlod a chewyll ; cludid ceryg hefyd ar fachu, y rhai a osodid bobtu i’r ystrodur. Y mae yn ddywediad gan yr hen bobl “Mai Ellin Gruffydd, yr hon wedi hyny a fu wraig i John Puw, Ty hen, yr hona anwyd yn 1700, a aeth a’r pwn cyntaf mewn cewyll i Aber Cegin.” Yr oedd hon yn hen nain i Judith Williams, Nant y Graian, yr hon hithau a fu yn cario gyda chewyll, ac yr oedd yr olaf yn fam y Parch John Owen, Hermon, yr hwn aydd eto yn fyw. Cludid a chewyll yn y wedd uchod i Aber Cegin, gan R.Williams Cil Geraint, a Jane Jones, yr hen Durnpike, &c., a’r olaf yw yr unig un sydd yn fyw o’r carwyr gyda chewyll, bu ei thad a’i mam, a’i thaid a’i nain yn y swydd o’i blaen. Cludid hwy yn y cyfnod hwn gydag ystlys orllewinol yr Ogwen, heibio Bryn Meirig, a than Fryn Derwen, a Thanysgrafell, tros y Groes a Phenau y Bronydd, a heibio Penlan am Aber Cegin.
Yn awr, er mwyn difyrwch i’r darllenydd, dodwn i lawr ddull yr hen bobl o gadw cyfrif, o enau Jane Jones ei hunan,
1af, Bwrw neu mwrw y galwent 3 carreg.
2il, Cant Bach y galwent 10 mwrw a 2 garreg.
3ydd, Cant Mawr oedd cynwys 4 Cant Bach;a
4ydd, Dau Gant Bach oedd bwn ceffyl.
Dyfyniad o lyfr:
HYNAFIAETHAU LLANDEGAI A LLANLLECHID gan Hugh Derfel Hughes, Pendinas, Llandegai. “Cario a chewyll”
Gweno Llwyd, Nansi Williams, a Betsan Williams
Marged Fwyn Uch Ifan
Gras y Garth (Grace Parry)
Catherine Matthews
Beti Ffowc