Gwersi CA2/3

Yma ceir adnoddau i ddysgwyr Cyfnod Allweddol 2 – 7 i 11 oed, Cyfnod Allweddol 3 – 11 i 14 oed Medrir defnyddio'r adnoddau o dan ganopi thema eang sy’n gysylltiedig a Cymuned a Chynefin, Bro, Hanes Cymru.

Mae’r adnoddau yma yn benodol am Safle Treftadaeth y Byd, Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru. Ceir 6 cydran o fewn Safle Treftadaeth y Byd, oll a'u nodweddion unigryw eu hun o ran tirwedd a byd natur. Adroddir yr hanes gan greaduriaid sydd yn byw yn yr ardaloedd hynny, megis Guto Bwch Gafr a Menna Min Gafr; y geifr mynyddig Cymreig o ardal Ddyffryn Ogwen a Pheris, a Tegwen y Troellwr, yr aderyn prin hynod hwnnw; y Troellwr Mawr sy'n byw yn ardal Chwarel Brynreglwys yn Abergynolwyn.

  1. Guto Bwch Gafr; Beth ydy Llechen? Daeareg, crynodeb o wneuthuriad y graig, a sut cafodd ei greu.
  2. Tegwen y Troellwr Mawr; Yn ble mae yna lechen yng Nghymru? Daeareg; Esboniad o leoliadau’r graig, a’r rheswm bod yr ardaloedd chwarelyddol wedi datblygu.
  3. Beth yw Safle Treftadaeth y Byd?
  4. Iaith y Chwarel
  5. Y Streic Fawr

 

Guto Bwch Gafr; Beth ydy Llechen?

Beth yw Safle Treftadaeth y Byd?

Iaith y Chwarel

Termau dywediadau a trosiadau o gyfnod y diwydiant llechi.

Gwelir gwybodaeth pellach ar dudalen Gasgliad y Werin: Iaith, a gwelir ddelwedd gyda dyfyniad o’r gwybodaeth yma.

Disgrifiad o’r adnodd a syniadau cynllun gwers

Adnodd addysg gynradd - Iaith y chwareli, termau, dywediadau enghreifftiau o a chymariaethau cysylltiedig â'r diwydiant llechi yng Ngogledd Orllewin Cymru. Gellir defnyddio'r adnodd fel sail ysbrydoliaeth ar gyfer ymchwil pellach i ddywediadau ac ymadroddion, medrir cael eu troi yn ddelweddau llonydd neu rhai sy'n symud. Crëwyd yr animeiddiadau ffrâm wrth ffrâm gan blant Ysgol gynradd Manod, Blaenau Ffestiniog, a'r alaw werin draddodiadol 'Chwarelwr oedd fy nhad' yn cael ei ganu gan blant Ysgol y Garreg Llanfrothen.

Y Streic Fawr

J R Lloyd Hughes, arlunydd a ddogfennodd hanes y Streic Fawr, yn chwarel y Penrhyn, Penrhyn.

Dyma grynodeb o waith J.R.Hughes, arlunydd/cartwnydd gwnaeth greu cyfres o gartwnau, o olygfeydd oedd yn dogfennu'r digwyddiadau oedd yn gysylltiedig â Streic Fawr Chwarel y Penrhyn, ym Methesda, Gogledd Cymru. Cyhoeddwyd y rhain ym mhapur newydd; Papur Pawb 1900-1903. Roedd yr artist yn enedigol o Thyn-y-gongl, Ynys Môn. Cafodd ei addysg ym Mangor, ac yn Ysgol Gelf Slade, yn Llundain, lle ddaeth yn gyfaill i Augustus John. Roedd yn artist i bapurau newydd y cyfnod, a chreodd ddyluniadau ar gyfer nifer fawr o gardiau cyfarch a phost Cymreig, a nifer helaeth o nofelau'r cyfnod. Yn y cefndir ceir fersiwn o'r gân; 'Punt y Gynffon' a'i cyhoeddwyd yn y cyfnod. Mae'r alaw ar y dôn 'Y Mochyn du', a'r eirfa yn dilorni 'r 'cynffonwyr', a ddychwelodd i'r chwarel a thorri telerau'r streic.