Adrian Bradley

Adrian Bradley
Antur Stiniog

Dwi wedi gweithio am bron iawn i 22 o flynyddoedd yn y chwareli yn Blaena’, ers pan oeddwn i’n 17 oed. Nesh i gychwyn yn 13 oed yn gweihtio dros yr ha’ i Will Roberts, perchenog Gloddfa Ganol.... nesh i byth feddwl y byswn i’n reolwr ar y run seit 20 mlynadd wedyn. Llenwi tyllau, peintio, gwneud coasters.... a lot o sgeifio nes i yn y cyfnod yma.....grêt o amser!

Gesh i swydd yn gweithio yn Chwarel Cwt y Bugail pam o ni yn 17, trin cerrig walio, dysgu i hollti a naddu cerrig, a sut i ddefnyddio lli ‘diamond blade’. Cwt oedd y chwarel uchaf yn Stiniog, a heb air o glwydda, welas i eira yna yn mis Mai! O ni yn Cwt y Bugail am 12 mlynadd, a wedyn nes i symud i Chwarel Ffestiniog; Seit Gloddfa Gannol, ond yn defnyddio a creigio cerrig Chwarel Oakley. Nes i dderbyn swydd goruchwyliwr ar y seit; blwyddyn wedyn ges i gynnig swydd Rheolwr Cynhyrchu, a blwyddyn wedyn swydd Rheolwr Seit. Nes i’r swydd yma tan nath gweithfeydd tanddearol olygu fod yr ardal lle roedd y gwaith creigio yn digwydd yn anniogel.

Nes i gychwyn gweithio i Antur Stiniog yn mis Mai 2012 yn setio fyny’r Ganolfan Beicio a’r llwybrau ar lethrau Cribbau yn Llechwedd; chwarel arall oedd wedi ei gau rhai blynyddoedd yn ôl, ac cael ei rhedeg gan griw bach. Ma’n biti garw gweld y diwidiant chwarel yn marw! Nath y llwybrau beicio agor yn Gorffenaf 2012, ac erbyn hyn yn fyd enwog am ei groeso cynnes a’i safle beicio arbennig! Da ni yn cael dros 10,000 o feicwyr yn defnyddio’r gwasanaeth, a ma’r ganolfan yn cyflogi 12 o bobol lleol.