Ben Silvestre

Dorothea Beam Engine conservation work
Highlife Rope Access

Mae gweithio yn y diwydiant cadwraeth yn dod gyda llawer o gyfrifoldeb, a ‘da ni ddim yn cymryd y cyfrifoldeb yna ysgafn.  ‘Da ni yn lwcus iawn i fedru teithio o amgylch Cymru a  Gogledd Orllewin Lloegr yn gweithio ar eglwysi ac adeiladau hanesyddol hardd, yn gwarchod y dreftadaeth gwerthfawr sydd yn amgylchynu’r strwythurau yma.  Rhan fawr o’r gwaith yw adfer toeau, ac ym myd deunyddiau toi mae na un rheol diamheuol – Llechi Cymraeg yw’r gorau.

Fel selogion yr awyr agored, mae’r cyferbyniad llwyr rhwng y mynyddoedd a’r chwareli wedi ein swyno erioed, gyda troedio’r tirwedd llechi yn datgelu’r hanes sydd yn cuddio ym mhob cornel.  Dwi’n amau fyddai unrhyw un ohonom wedi meddwl bryd hynny y byddem ni nid yn unig yn gweithio gyda cynnyrch y chwareli yma ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, ond hefyd yn gweithio i warchod treftadaeth y chwareli eu hunain.

Roedd chwarae rhan fechan yng ngwaith cadwraeth ar Injan Drawst Chwarel Dorothea yn bleser o’r mwyaf i ni, ac rydym yn edrych ymlaen i weld sut mae cynlluniau cadwraeth ar draws y Safle Treftadaeth y Byd yn datblygu.  Rydym yn credu yn gryf y byddai nid yn unig yn golled i Gymru, ond i’r Byd , petai’r henebion yma i ddycnwch ac arloesedd y boblogaeth leol yn cael eu colli, felly yn hynod falch eu bod eu gwerth yn cael ei gydnabod, fel all y gwaith o warchod y tirwedd yma barhau gyda’r gofal ac arweiniad mae’n haeddu.

https://www.highliferopeaccess.com