Carwyn Price

Carwyn Price
Crefftwr Arddangos

Mi wnes i gychwyn yn Chwarel y Penrhyn yn 16 oed ag erbyn hyn ‘dwi wedi treulio 28 mlynedd yn gweithio yn y diwydiant llechi. Roedd fy nau Daid yn chwarelwyr yn Chwarel Dinorwig. Dwi’n gweithio yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis yn arddangos y grefft o hollti a naddu. Dwi di creu dipyn o bethau allan o lechi, gan gynnwys telyn a phêl rygbi. Dwi’n mwynhau cyfarfod pobol, deud y stori a chlywed straeon ymwelwyr yr amgueddfa am eu cysylltiad nhw â’r diwydiant llechi. Dwi’n dysgu lot wrth gyfarfod â’r cyhoedd. Dwi hefyd yn aelod o Seindorf Arian Deiniolen fel drymiwr!