Gareth Thomas

Gareth Thomas
Cyn Gynghorydd Sir

Cefais fy magu ym Mhenrhyndeudraeth ac mae fy ngwreiddiau'n ddyfn yn y diwydiant llechi. 
 
Roedd dau o fy hen deidiau yn gweithio yn y diwydiant. Un yn chwarel Croesor (oedd o hefyd yn berchen ar Chwarel y Parc am gyfnod) a'r llall fel perchennog ar un o'r cychod duon fu'n cario llechi ar yr Afon Ddwyryd o Faentwrog i Ynys Cyngar. Hyn wrth gwrs cyn dyfodiad lein fach 'Stiniog. Roedd fy nhaid hefyd yn chwarelwr yn chwarel Croesor ac yn gweithio yno pryd oedd gwaith Ffrwydron Cooke’s yn defnyddio'r chwarel fel storfa. Fy nhad oedd Rheolwr adeiladu ar lein fach 'Stiniog. 
 
Roedd yn falchder o'r mwyaf gennyf fod yn Aelod Cabinet dros Datblygu'r Economi a Chymuned i Gyngor Gwynedd yn arwain at, a pan gyhoeddwyd bod dynodiad llwyddiannus i Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.  Roedd yn fraint o gael cydnabyddiaeth byd-eang i waith a chyfraniad fy nghyndeidiau a llawer eraill i'r diwydiant a’r tirwedd pwysig yma.