Lindsey Colbourne

Lindsey Colbourne
Arlunydd

Rwy’n byw a gweithio yn Nantperis, mewn tŷ a adeiladwyd gan deulu gweithiwr chwarel. Mae gennyf ddiddordeb yn y ‘llif’ o bethau - o syniadau, deunyddiau, amser, iaith a diwylliant - a sut mae hyn yn cysylltu â naws am le a pherthyn. Mae fy ngwaith bron bob amser yn gydweithredol , a rwy’n mwynhau creu profiadau sydd yn cysylltu pobl mewn gofod oriel heb gelf.

Rwy’n gweithio gyda llechi bron ym mhob prosiect, gan gynnwys “Digging Down/Cloddio i lawr”, swper pop-up mewn ysgubor yn Nantperis ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru, gan gyfuno cloddio archeolegol , bwyd, perfformiad a thrafodaeth mewn digwyddiad steil-Caban dan arweiniad merched sydd yn dod a bywydau’r merched anghofiedig a oedd wedi byw yma yn y gorffennol yn fyw.

lindseycolbourne.com/