Llinos Griffin

Llinos Griffin
Tiwtor Cymraeg / Gwneuthur wraig Ffilmiau

Dwi wedi cael fy magu yn Llanfrothen - gellir dweud mai hwn yw ardal taith y llechi rhwng y chwareli
a'r Ddwyryd - ac ar ôl teithio i wledydd eraill yn dysgu ieithoedd, ers chwe mlynedd bellach dw i
wedi fy ngwreiddio yn ôl yn ardal fy mebyd ym Mhenrhyndeudraeth, ac yn dysgu ieithoedd i bobl o
bedwar ban byd dros Skype. Dw i hefyd wedi cynhyrchu ffilmiau am bentrefi chwarel tafliad carreg o
fro fy mebyd yng Nghroesor, Cwmorthin ac hefyd Dolwyddelan, trwy fy nghwmni, Gwefus.


Gyda Chymraeg yn brif iaith yr ardal hon, mae wir yn bwysig i mi ddysgu pobl ynglŷn ag iaith a
diwylliant ein pentrefi ac rwyf hefyd yn cynnig sesiynau Cymraeg i Ymwelwyr iddynt gael cyflwyniad
i'r iaith yr ardal.


Yn fy amser rhydd, dw i'n cerdded gymaint ag y gallai ar hyd y Ddwyryd yn Mhenrhyndeudraeth ble
byddai llechi'r ardal wedi cychwyn ar eu taith o gwmpas y byd, neu i fyny yn y mynyddoedd a'r
chwareli lleol - heb os, mae'r tirlun hwn a meddwl am y bobl fyddai wedi troedio'r tir a byw a
gweithio yn yr ardal yn dyfnhau fy angerdd at fy niwylliant a'n iaith ac mae rhoi'r hanesion hyn ar
ffilm yn ogystal â dysgu Cymraeg i gymaint o bobl â phosib i godi ymwybyddiaeth am fy mamiaith a'n
iaith bob dydd yn mynd law yn llaw.


www.gwefus.com / www.byw-bod.cymru


Llun: Lara Usherwood