Mike Jones

Mike Jones
Arwain teithiau, Ceudyllau Llechwedd

Rwyf wedi bod yn arwain teithiau yn Llechwedd ers 3 mlynedd. I gychwyn, mi wnes i wneud cais am swydd yn y maes parcio, ond mae’n debyg roeddwn yn siarad gormod felly cefais gynnig swydd yn arwain teithiau yn lle, derbyniais y cynnig ac rwyf wrth fy modd yma. Rwy’n mwynhau arwain taith hwyliog a llawn hiwmor ond hefyd un sydd yn rhoi dealltwriaeth dda i’n hymwelwyr o fywyd y chwarelwyr yn y gweithle, y gwaith ac yr ymdrech am dâl mor wael.

Rwyf wrth fy modd yn gyda’r hyn rwy’n ei wneud ac yn angerddol am y diwydiant llechi. Mae gymaint o hanes ac rwy’n credu’n gryf bod stori diwydiant y llechi angen cael ei adrodd.