Sue Jones

Sue Jones
Inigo Jones

Roedd Inigo Jones yn un o’r llefydd cyntaf i ymweld ag ef wedi i mi symud i’r ardal dros ugain mlynedd yn ôl.  Mae llechen yn fy hudo fi rŵan cymaint ag oedd o’r adeg hynny.  Rwyf wedi bod yn gweithio yng Ngwaith Llechi Inigo Jones ers dros 10 mlynedd ac rwy’n caru fy swydd!  Dwi wrth fy modd hefo pobl ac felly mae fy swydd fel Rheolwr Siop yma yn fy siwtio i’r dim.  Rwy’n sicrhau bod croeso cynnes i’r holl ymwelwyr yma, yn enwedig y rhai a pedair coes!  Wrth fyw a gweithio yng nghanol y ‘stwff’ (llechen) allwch wneud dim ond dysgu gymaint amdano! Mae’n fy rhyfeddu hyd heddiw, bod yna 78 siop (!) wedi bod yn Stryd Hyfrydle, Talysarn.  Roedd pobl arfer gwerth nwyddau o’u hystafelloedd ‘ffrynt’, - mae’n rhaid bod y niferoedd o chwarelwyr oedd arfer gweithio yn y chwarel wedi bod yn sylweddol! Metropolis Prysur - Buaswn wrth fy modd cael profi sut yr oedd o arfer bod!