Martin Davis

Martin Davis
Inigo Jones

Fel Richard, dwi wedi bod yn gweithio’n Inigo Jones ers ysgol, ac wedi parhau i weithio yma ar y penwythnosau yn croesawu pobl i’r siop. Dwi’n hoff o bobl ac mae gweithio yma yn golygu byddai’n cael sgwrsio a rhannu hanes efo ymwelwyr gwahanol.  Dwi’n ffeindio’r hanes lleol yma yn ddiddorol iawn, a da chi’n anghofio weithiau pa mor hen ydi’r llechen, ag eto da ni’n gallu ei ddefnyddio fo i greu cynnyrch o safon uchel iawn.  Mae’r Gwaith llechi hefyd yn eithaf unigryw dyddiau ‘ma, does dim llawer o bobl yn gneud fel da ni ac mae o’n beth braf i fod yn rhan ohono.