Cylchdaith Creadigol

Cylchdaith Creadigol Safle Treftadaeth Y Byd

Mae tirwedd llechi Gogledd Orllewin Cymru wedi bod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth i lawer o artistiaid. Gwelir amrywiaeth o waith celf aml gyfrwng, o furluniau a cherfluniau, i arysgrifau a cherfiadau. Mae'r llwybrau creadigol a amlygir ar y map yn tynnu sylw at eu lleoliadau.

Darganfyddwch fwy am yr artist, y teithiau a gymerwyd ganddynt yn ystod y broses greadigol, trwy glicio ar y dolenni.

1: Ogwen

2: Peris

3: Nantlle

5: Porthmadog

6: Blaenau Ffestiniog

7: Tywyn

Dyma fap rhyngweithiol sy'n dangos lleoliadau'r gwaith celf:

CERFLUNWAITH PORTHMADOG

gan HOWARD BOWCOTT

Dyma ffilm o Howard yn esbonio'r broses a'r gwaith ymchwil oedd yn gysylltiedig â chreu'r gyfres arbennig yma o gerfluniau, sy'n ffurfio cylchdaith o amgylch tref Porthmadog. Maent yn amlygu hanes, diwylliant a threftadaeth gyfoethog y dref, a'r cysylltiadau efo'r diwydiant llechi. Crëwyd y cerfluniau ar gyfer prosiect 'Llewyrch o'r Llechi', Llechi Cymru, a'i cefnogwyd gan Gyngor Gwynedd o gyllid Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU. Crëwyd y ffilm gan 'LleCHI LleNI', Llechi Cymru, at bwrpas pecyn addysg ac adnoddau.