Canllawiau Cystadleuaeth Ffotograffiaeth

LLECHI: Golwg Gwahanol

Chwarel Dinorwig

RHOI CYNNIG AR Y GYSTADLEUAETH

Darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am gynnig eich lluniau i'r gystadleuaeth Llechi: Golwg Gwahanol yma.

Cofiwch ddarllen y rheolau cyn cyflwyno eich lluniau.

CEFNDIR A PHWRPAS

Mae’r gystadleuaeth Llechi: Golwg Gwahanol wedi ei chreu er mwyn llunio arddangosfa yn Amgueddfa Lechi Cymru rhwng Mai a Rhagfyr 2023 ac i godi ymwybyddiaeth o’r Safle Treftadaeth Byd: Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru. Mae rhai o’r golygfeydd syfrdanol o’n tirwedd llechi a’i phobl wedi dod yn gyfarwydd iawn - ond rydym nawr yn chwilio am luniau sy’n adlewyrchu golwg gwahanol, unigryw neu anarferol ohoni.

Cyn cyflwyno lluniau i gategori cystadleuaeth, cofiwch ddarllen y termau isod:

CATEGORIAU A THEMAU

Mae 2 gategori oedran yn y gystadleuaeth:

  • Ffotograffydd Ifanc: 18 oed ac iau (18 ac iau ar 31.08.23)
  • Oedolion: yn agored i ffotograffwyr 18 oed a hŷn.

Ceir 3 thema:

  • Aruthrol
    Lluniau sy’n dangos pa mor syfrdanol a rhyfeddol yw’r tirwedd llechi
  • Arloesol
    Delweddau sy'n adlewyrchu natur arloesol y diwydiant, neu’n dangos sut y gwnaeth dorri tir newydd
  • Cymuned
    Delweddau sy'n adlewyrchu'r bobl a'r llefydd sy'n gwneud y cymunedau llechi yn arbennig

CYFLWYNO FFOTOGRAFFAU

  • Cewch gyflwyno hyd at 10 llun i gyd.
  • Cewch gyflwyno'r un ddelwedd i fwy nag un categori.
  • Cewch gyflwyno cyfres o 4-6 llun sy'n adrodd stori ar unrhyw un o'r themâu.
  • Nid oes terfyn amser ar pryd y tynnwyd y llun(iau), a gellir fod wedi eu cyhoeddi o'r blaen. Rydym yn chwilio am luniau cyfoes sydd wedi eu tynnu yn 2021 ymlaen (sef blwyddyn y dynodiad Safle Treftadaeth y Byd).
  • Gellir cynnwys lluniau lliw a du a gwyn i bob un o'r categorïau.
  • Labelwch eich lluniau gyda theitl a'ch enw os gwelwch yn dda.
  • Cofiwch gynnwys ddisgrifiad byr o'r ddelwedd gyda lleoliad wedi'i gymryd, cefndir, dyddiad ac ati (Dim mwy na 100 gair)
  • Cadwch gopi o'ch delwedd a cadwch y ffeil wreiddiol
  • Anfonwch eich ffotograffau at llechi@gwynedd.llyw.cymru

MATH A MEINTIAU FFOTOGRAFFAU

Dylid cyflwyno ceisiadau fel ffeiliau JPEGs neu PDF  mewn maint cymhedrol /canolig. Sicrhewch bod y fersiwn gwreiddiol o ansawdd mor uchel â phosibl, yn enwedig os yn tynnu lluniau gyda'ch ffôn. Os dewisir eich delwedd ar gyfer yr arddangosfa bydd angen i chi ddarparu ffeil JPEG safon uchel neu ffeil TIFF.

ADDASIADAU DIGIDOL

Caniateir nifer cyfyngedig o addasiadau digidol i luniau cyn belled â’u bod ddim yn camgyfleu realiti'r ddelwedd. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • addasiadau tôn / addasiadau cyferbyniad / cropio / minio
  • lleihau sŵn / gwaith glanhau mân / HDR / panoramas wedi'u pwytho/ pentyrru ffocws

DIOGELWCH

Byddwch yn ofalus wrth ymweld â Safleoedd Treftadaeth y Byd.  Rydych yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth lawn ag unrhyw ddeddfwriaeth genedlaethol neu ryngwladol berthnasol (gan gynnwys mewn perthynas â dronau) ac am sicrhau unrhyw drwyddedau perthnasol.  Cofiwch barchu’r ardal unigryw a pharatoi yn gall ar gyfer unrhyw ymweliad.

Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru heb os yn hynod ddiddorol, ond yn ôl ei natur yn medru bod yn anghysbell, peryglus a heriol. Mae cyfran sylweddol o’r tirwedd o fewn perchnogaeth preifat ac mae rhywfaint o hyn ar dir ble nad oes caniatâd i fynediad cyhoeddus.

Cyn i chi gychwyn allan i archwilio’r tirwedd llechi, gofynnwch i chi eich hunain, oes gen i’r hawl i ymweld a’r safle? Oes gen i’r offer cywir? Ydw i’n gwybod sut fydd y tywydd? Ydw i’n hyderus fod gen i’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y diwrnod? Ewch i Mentro'n Ddiogel er mwyn darganfod sut i fwynhau eich ymweliad yn ddiogel.

CYHOEDDUSRWYDD A HAWLFRAINT

Gellir defnyddio rhai lluniau sydd wedi'u cynnwys yn yr arddangosfa at ddibenion cyhoeddusrwydd.  Drwy gyflwyno eich lluniau, rydych yn rhoi caniatâd i ni eu defnyddio at ddibenion yr arddangosfa a marchnata. Bydd pob llun yn cael ei gredydu.

SUT MAE'R GYSTADLEUAETH YN CAEL EI BEIRNIADU

  • Bydd panel o feirniaid yn gwerthuso pob cynnig.
  • Bydd pob llun yn cael ei feirniadu’n ddienw.
  • Bydd y panel yn chwilio am wreiddioldeb, persbectif a stori.
  • Peidiwch â chyflwyno lluniau sydd eisoes wedi eu gwobrwyo mewn cystadlaethau eraill.

CWESTIYNAU A OFYNNIR YN AML.

  • Ble mae Tirwedd Llechi Safle Treftadaeth y Byd Gogledd-orllewin Cymru?
    Mae map sy’n dangos y tir sy’n rhan o’r Safle i’w weld yn fan hyn: Ardaloedd Llechi | LLECHI CYMRU
     
  • Oes ots os nad yw fy llun o fewn ffiniau Safle Treftadaeth y Byd?
    Nac oes. Os yw'ch llun yn dangos tirwedd chwarel, cymuned neu wrthrych yn neu o ogledd orllewin Cymru mae hynny'n dderbyniol.
     
  • A allaf gyflwyno lluniau a dynnwyd ar fy ffôn?
    Gallwch ond gwnewch yn siwr eu bod o’r safon uchaf posib gan y bydd angen safon uchel os yn cael eu cynnwys yn yr arddangosfa.

GWYBODAETH PELLACH

Os nad ydym wedi ateb eich cwestiwn yma, rydym yn hapus i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych ynglŷn â chystadlu. E-bostiwch llechi@gwynedd.llyw.cymru gyda'ch ymholiad.

Pob lwc! Byddwn mewn cysylltiad ym mis Ebrill os bydd eich cynnig yn llwyddiannus.