Hogia Caib a Rhaw
Dewch am dro i'r chwarel:
Estynnwch gaib a rhaw:
Mae peryg rownd pob cornel,
Felly awn ni law yn llaw;
Heibio y tai teras boed heulwen, wynt neu law;
Cofiwch eich cap stabl
A'ch sgidiau rhag y baw.
Cytgan;
Ni yw'r hogia caib a rhaw,
Colbio'r creigiau, be' bynnag ddaw;
Dewch i gloddio gyda ni
Hogia caib a rhau yda ni.
Dewch yn ol mewn amser
Cyn oes y JCB,
Rhaid mochel rhag y ffeiar
Cyn tanio'r TNT!
Llwythwn y wagenni yn llawn o lechi glas.
I helpu'i gyfoethogi
Yr Arglwrydd Penrhyn cas.
Cytgan
Beth sy'n dod o lechfaen.
Dywedwch wrtha i;
Cerrig yn y fynwent
Neu stepan drws tŷ ni,
Sylfaen i fwrdd snwcer neu do ar ben y tŷ
Mae cynnyrch llethrau Cymru
Ym mhobman, coeliwch fi.
Cytgan