A wyddost di, am y dreigiau coch
sy’n byw ym mröydd y llechi?
Gwrandawa’n astud yng nghanol nos,
Fe glywi di nhw yn canu.
Deor yr wyau, ar Fawrth y cynta’,
O wely clyd y nyth,
Fyny fry, fyny fry a weli di’r dreigiau,
Yn hedfan yn y nen?
(Cytgan)
Mae ‘na ddreigiau coch yn Nyffryn Nantlle,
Dyffryn Peris, ac o lethrau Blaena’,
Abergynolwyn a Dyffryn Ogwen,
Daw’r dreigiau o’r chwareli llechi.
A welais di, yr holl ddreigiau coch,
Sy’n fyw ar lechweddau’r llechi?
Adenydd cryfion sydd yn gwibio’r nen,
Yn tanio trwy y chwareli.
Hedfan dros Gymru, a mynyddoedd Eryri,
I draethau lan y mor.
Fyny fri, fyny fri, a weli di’r dreigiau,
Yn canu yn un côr?
(Cytgan)
Mae ‘na ddreigiau coch yn Nyffryn Nantlle,
Dyffryn Peris, ac o lethrau Blaena’,
Abergynolwyn a Dyffryn Ogwen,
Daw’r dreigiau o’r chwareli llechi.
Ma na ddreigiau coch yn Ysgol y Gorlan,
Borth y Gest, a’r Garreg Llanfrothen,
Cefn Coch, Hafod Lon, ac Eifion Wyn,
Daw’r dreigiau o ysgolion Cymru.
Daw’r dreigiau o’r chwareli llechi,
Hefo’i gilydd ‘ma nhw yn canu,
Ni yw dreigiau Cymru.