Troseddau treftadaeth yw unrhyw weithgaredd anghyfreithlon sy'n niweidio asedau hanesyddol gan gynnwys adeiladau, henebion, parciau, gerddi a thirweddau. Gall hyn olygu dwyn, difrod troseddol neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, a all nid yn unig niweidio'r creiriau hanesyddol eu hunain ond hefyd a all amharu ar fwynhad a dealltwriaeth y cyhoedd ohonynt.
Mae nifer o achosion wedi bod yn ddiweddar mewn mwy nag un gydran o'r Safle Treftadaeth y Byd, gan gynnwys fandaliaeth ym Mharc Gwledig Padarn, Llanberis:
Mae pwysigrwydd adrodd am drosedd treftadaeth yn ddeublyg. Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i amddiffyn treftadaeth gyfoethog ein tirwedd llechi. Hefyd, mae adrodd am achosion gan ddefnyddio'r broses gywir yn gwella ansawdd data cofnodion sydd gan yr Heddlu.
Sut i adrodd am Drosedd Treftadaeth
Mewn argyfwng, os yw aelod o'r cyhoedd yn ymwybodol o drosedd treftadaeth sy'n cael ei chyflawni ar hyn o bryd, galwch yr Heddlu ar 999. I adrodd am drosedd treftadaeth sydd eisoes wedi digwydd, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru gan ddefnyddio 101 neu rhowch wybod am ddigwyddiad ar-lein: www.northwales.police.uk. Nodwch ei bod yn drosedd treftadaeth ymhob achos.
Rhowch wybod i Crimestoppers ar 0800 555 111 os hoffech adrodd am wybodaeth yn ddi-enw.
Ar gyfer digwyddiadau nad ydynt yn rhai brys: ruralcrimeteam@northwales.police.uk.
Defnyddiwch yr hashnod (meta-data) #OpHeritageCymru wrth ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i gyfeirio at ddigwyddiadau.
Gall cynnwys yr ymadrodd "Op Heritage Cymru" wrth adrodd am ddigwyddiad sy'n effeithio ar ased hanesyddol gynorthwyo'r sawl sy'n cymryd yr alwad yn fawr. Bydd yn eu helpu i adnabod y mater fel trosedd treftadaeth a'i wahaniaethu o adroddiadau trosedd arferol.
Gwybodaeth Pellach
Cyngor Gwynedd: Cyngor Gwynedd yn annog y cyhoedd i helpu gwarchod treftadaeth leol
Cadw: Troseddau Treftadaeth | Cadw