Y Lechen Las
Creigiau cadarn gwlad ac iaith,
Clyw, o clyw hanesion taith,
Cymuned y werin gwreiddia dy gynefin,
Gwreiddia’ dy gynefin,
Sy’n adlais ar y muriau.
Craith y chwarel ar ôl gwaith,
Sŵn, y sŵn dros amser maith,
Chwareli y Cymry,
Hanes yn byrlymu,
A’r adlais ar y muriau.
Cytgan
Hogia’ Gwalia, a wnaeth doi y byd,
O’r lechen las, o’r lechen las,
Y crawia’, a’r walia’ cry’,
Llewyrch ddaw o’r llechi o hyd.
Can y corn ar ddechrau gwaith,
Haul, yr haul toc wedi saith,
Amser y caban,
Ffrindia’ a chlebran,
Yn adlais ar y muriau.
Cytgan
Gwyrddni mwsog’ ar y graith,
Cen, y cen lledaenu wnaeth,
Natur a bywyd,
Yn clymu mewn celfyddyd,
A’r adlais ar y muriau.
Cytgan