Mirain Gwyn

Mirain Gwyn
Taldraeth

Heb y diwydiant llechi ni fyddai Taldraeth, yr Hen Ficerdy, yn bodoli. Cafodd y Ficerdy ag Eglwys y Drindod ym Mhenrhyndeudraeth ei adeiladu gan deulu’r Oakleys yn 1858, a mae yna dipyn o lechi yn rhan o’r adeilad.

Mi wnaethom ni ei brynu yn 2013, a'i adnewyddu i lety gwely a brecwast moethus 5 seren sydd wedi ennill nifer fawr o wobrau.

Fe enwyd y safle yn Taldraeth gan ei fod yn edrych allan dros aber y Ddwyryd, sydd wedi bod yn afon allweddol i allforio llechi o Flaenau Ffestiniog i borthladd Porthmadog. Da ni wedi cymryd gofal i gadw nodweddion gwreiddiol y tŷ, gyda crawiau llechi ar llawr y cegin, pantri, cyntedd, selar a'r gratiau llechi. Mae'r ardd yn cynnwys waliau cerrig Fictorianaidd lle rydym wedi planu coed afalau cynghenid Cymrieg, ffrwythau meddal a llysiau a'u defnyddio i wneud cynnyrch 'o'r ardd i'r jar' Pantri Taldraeth.

Mae’r lle yn llawn o hen ddodrefn Cymreig, yn dyddio'n ol i'r 17fed ganrif, ac sydd wedi eu casglu gan fy rhieni dros gyfnod o 40 mlynedd sy'n cynnwys llawer o eitemau sydd wedi'i carfio gyda llechi.

taldraeth.com