Sara Lois

Sara Lois
Gemydd

Sara Lois ydw i, a dwi’n emydd sydd wedi fy lleoli ym Mhen Llyn, Gogledd Cymru. Dwi’n creu gemwaith syml a chyfoes yn defnyddio arian a llechen Gymreig wedi eu hysbrydoli gan ddiwylliant a threftadaeth Gymreig. Cychwynais ddefnyddio llechen yn fy ngwaith yn wreiddiol pan sylwais ar bentwr o hen lechi to wedi eu hesgeuluso yng ngardd fy nhaid.

Drwy gyfuno technegau traddodiadol gyda pheiriannau modern mewn ffurf torrwr/ysgrythwr laser rwyf bellach yn troi'r darnau o ddeunyddiau diangen yma i mewn i eitemau o emwaith i gael eu trysori.