Rwy'n fardd, yn berfformiwr geiriau llafar ac yn ymarferydd ysgrifennu therapiwtig o Lansteffan, Sir Gaerfyrddin, gyda chysylltiad cryf â Gogledd Cymru. Mae fy nhrydedd gyfrol o farddoniaeth, Mineral Wealth, yn archwilio bywyd fy mam-gu (mam fy mam) a’i dylanwad ar fy mywyd, er iddi farw ym 1945 ac na chefais gyfle i’w chyfarfod. Magwyd fy mam ym Metws-y-Coed o 1938 ymlaen, pan oedd fy nhad-cu, William Morgan Thomas, yn Arolygydd Ei Fawrhydi (HMI) ar gyfer Mwyngloddiau a Chwareli Gogledd Cymru. Roedd yn aelod o’r tîm a nododd fwynglawdd Manod fel lle diogel i gadw trysorau celf yr Oriel Genedlaethol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Hefyd, cynhaliodd ac aflwynodd ymchwil i fesurau i atal llwch wrth brosesu llechi. Rwyf bob amser wedi teimlo cysylltiad cryf ag ardaloedd llechi Cymru, ac wedi mwynhau ysgrifennu rhai o’r cerddi yn y gyfrol ym Mlaenau Ffestiniog.
Dywed y bardd a’r ymgyrchydd amgylcheddol Elinor Gwynn am y gyfrol:
“Casgliad swynol o weithiau sy’n ymchwilio i dirweddau’r meddwl, cof a lleoedd – ac i ddefnyddioldeb a natur ffisegol ein bodolaeth. Gan gyfuno barddoniaeth, rhyddiaith a chelf, mae Mineral Wealth yn ein gwahodd i edrych ‘i ffwrdd ac allan ac yn ôl’ wrth i’r awdur blethu cysylltiadau ar draws cenedlaethau a symud yn ôl ac ymlaen rhwng gorllewin gwledig Cymru, tirwedd lechi Eryri a maes glo de Cymru, gan daflu goleuni ar sut rydym yn byw gyda, a thrwy, ein straeon a’n cyfrinachau.
Gan chwarae â darnau o iaith, cerddoroldeb geiriau, darnau o sibrwd o archifau teuluol, a pigmentau a hanes lleoedd, mae Mineral Wealth yn archwiliad dwys a theimladwy o’r haenau uchaf o graig a phridd, y holltau, y plygiadau, y gwythiennau a’r gwaddodion sy’n rhan o’n hunaniaeth fel pobl, yn union fel y lleoedd rydym yn byw ynddynt.
Dyma gasgliad i’w werthfawrogi, i’w ddarllen yn uchel, i fyfyrio arno ac i’w rannu.”