Tywyn ac Abergynolwyn – Cymunedau rhwng y Mynydd a’r Môr
Mae hanes Tywyn ac Abergynolwyn yn rhan annatod o stori ehangach Meirionnydd – stori o dirwedd, llafur a chysylltiad dwfn rhwng pobl a’r llechi a luniodd eu bywydau.
Sefydlwyd pentref Abergynolwyn yn yr 1840au i gartrefu gweithwyr Chwarel Lechi Bryn Eglwys, a oedd wedi’i lleoli ym mryniau Cwm Fathew. O’r chwarel hon y daeth llechi a deithiodd ymhell y tu hwnt i Gymru.
Cludwyd y llechi garw i lawr yr incleiniau serth i gyrraedd Rheilffordd Talyllyn yn Nant Gwernol – y rheilffordd stêm wirfoddol hynaf yn y byd. Oddi yno, teithiodd y llechi drwy’r dyffryn am 7¼ milltir i Dywyn, lle cânt eu llwytho ar drenau’r brif lein a llongau i’w hallforio ledled y byd.
Roedd y ddwy gymuned, Abergynolwyn a Thywyn, felly’n ffurfio cadwyn fyw rhwng y mynyddoedd a’r môr – cymunedau a adeiladwyd ar lechi, ar waith caled, ac ar y rheilffordd a’u cysylltodd.
Y Wagen – Ail-gread o Grefft a Llafur

Mae’r wagen gelf sy’n sefyll yng nghanol Tywyn, y tu allan i swyddfa’r cyngor tref, yn ail-gread o’r wagenni slabiau llechi a ddefnyddiwyd yn Chwarel Bryn Eglwys. Ar un ochr mae geiriau Manon Steffan Ros wedi eu hysgrythu, ac ar yr ochr arall fe welwch enwau gorsafoedd Rheilffordd Talyllyn yn dangos taith y lechen o'r mynydd i'r môr.
Dros 80 mlynedd, tan i’r chwarel gau yn 1946 ar ôl cwymp trychinebus, defnyddiwyd y wagenni pren a haearn hyn – o ddyluniad sy’n dyddio’n ôl i ddiwedd y 18fed ganrif – i gludo slabiau trwm o lechi heb eu torri o ddyfnder y mynydd.

Er nad oedd y wagenni hyn yn rhedeg ar Reilffordd Talyllyn ei hun, roedd eu rôl yn hanfodol:
- cludo’r llechi garw o’r chwarel,
- eu danfon i’r siediau torri,
- a chychwyn ar eu taith hir i’r môr ac i’r byd.
Mae’r ail-gread yn sefyll heddiw fel symbol o’r gwaith caled, y grefftwaith a’r hanes diwydiannol sydd wedi siapio Tywyn a’i chymunedau cyfagos.
Y Llechi – Geiriau gan Manon Steffan Ros

Mae’r geiriau sydd wedi’u hysgythru ar y llechi ar y Wagan – a gludwyd 38 milltir o Chwarel Ffestiniog – yn eiriau gwreiddiol gan yr awdur o Tywyn, Manon Steffan Ros.
Mae Manon yn adnabyddus am ei gallu i ddal hanfod lle a phobl, ac mae ei geiriau ar y wagen hon yn adlewyrchu cof, treftadaeth a pherthyn. Maent yn deyrnged i’r cymunedau chwarelyddol a fu’n gweithio’n ddiflino i lunio’r tirwedd a’r economi leol.
Cofia Dysynni, cofia lwch y llechi, cofia fraint dy gynefin di.
Mae’r geiriau hyn yn pontio’r gorffennol a’r presennol – yn ein hatgoffa o’r hyn a fu, ac o’r hyn sy’n parhau i fyw yn y tir, yn y bobl, ac yn y cof.

Geiriau ar y Stryd sy’n Clymu Lle, Iaith a Chof
Mae’r geiriau sydd wedi’u hysgythru ar y troedffyrdd o amgylch y wagen yn rhan annatod o’r gwaith celf cyhoeddus. Fe’u hysgrifennwyd gan yr awdur o Dywyn, Manon Steffan Ros, ac maent yn adlewyrchu perthynas ddofn rhwng y dref, ei hanes a’i phobl.

Mae’r geiriau yn tynnu ar elfennau sy’n diffinio Tywyn: y llechi, y môr, y rheilffordd, y tirweddau sanctaidd a’r gymuned fywiog sy’n byw yma heddiw. Maent yn creu llwybr o eiriau sy’n arwain ymwelwyr drwy stori’r dref, gan uno’r gorffennol â’r presennol.
Ystyr y Geiriau
Carreg Cadfan, a hanes ei thaith / Yw asgwrn cefn, ein heniaith.
Mae’r cyfeiriad at Garreg Cadfan yn cysylltu Tywyn â’i hanes Cristnogol cynnar. Mae’r garreg, sy’n sefyll yn Eglwys Cadfan, yn un o’r enghreifftiau hynaf o’r Gymraeg ysgrifenedig. Mae’r llinellau hyn yn awgrymu mai’r garreg hon — a’r iaith sydd wedi’i cherfio arni — yw asgwrn cefn hunaniaeth y fro.
Y llechi sy yng ngho’ Bro Dysynni, / A’u gwythiennau nhw yw’n hanes ni.
Mae llechi’n rhan o DNA y dyffryn. Mae’r “gwythiennau” yn cyfeirio at y gwythiennau mwynol yn y mynyddoedd, ond hefyd at wythiennau hanes a chof sy’n rhedeg drwy’r gymuned.
Mae breichiau’r dre amdanynt yn dynn, / Rhwng fferm Penllyn a’r Morlyn.
Mae’r dref yn cofleidio’r tir rhwng y mynyddoedd a’r môr. Mae Penllyn a’r Morlyn (Tywyn Lagoon) yn nodi’r ffiniau naturiol sy’n siapio bywyd y dref.
Y cogie bech a’r lodesi, / Sydd pia fory’n Tywyn ni.
Cyfeiriad at blant y dref — y genhedlaeth nesaf sy’n etifeddu’r hanes, y tir a’r iaith. Mae’r geiriau’n llawn cynhesrwydd a pherthyn.
Chwibian trên a sisial ton / Sy’n gyfeiliant i’r dref hon.
Dyma sain Tywyn: y trên stêm o Reilffordd Talyllyn a sŵn y tonnau ar draeth Tywyn. Mae’r ddwy elfen yn symbolau o’r cysylltiad rhwng y mynyddoedd a’r môr.
Tre’n hanes ni, a’n ceraint. / Tre’n hufen ia, a swyn y saint.
Mae’r dref yn gymysgedd o’r cysegredig a’r boblogaidd: o hanes a chrefydd i bleserau syml bywyd ar lan y môr. Mae’n lle sy’n perthyn i’w phobl.
