Louise Barker

Louise Barker
Archeolegydd

Rwy’n archeolegydd gyda Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, corff ymchwilio sy’n hybu dealltwriaeth o dreftadaeth archeolegol, adeiledig a morwrol Cymru, ac yn guradur yr Archif Genedlaethol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru.

Rwyf wedi bod yn gweithio yn y Comisiwn Brenhinol ers bron i 20 mlynedd, ac rwy’n ffodus iawn i gael gyrfa sy’n fy ngalluogi i deithio ledled Cymru a chynnal arolygon ac ymchwil ar amrywiaeth o henebion a thirweddau o’r cyfnod cynhanes hyd heddiw. Ers dros ddegawd mae’r diwydiant llechi wedi bod yn brosiect thematig pwysig yn y Comisiwn ac rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i arwain y gwaith hwn. Mae wedi fy ngalluogi i archwilio llawer o’r olion ysblennydd sy’n gysylltiedig â’r diwydiant a bûm yn gweithio’n agos gyda Dr David Gwyn ar gyhoeddiad 2015 y Comisiwn Brenhinol, Llechi Cymru - Archaeoleg a Hanes.

Roedd y Comisiwn Brenhinol yn bartner yn yr enwebiad Treftadaeth y Byd ac roeddwn yn rhan o’r grŵp a baratôdd yr enwebiad. Roedd yn uchafbwynt gyrfa pan ddyfarnwyd Statws Treftadaeth y Byd, ac mae’n wych nawr i weithio gyda’r tîm ar gam nesaf taith y Safle Treftadaeth y Byd.

Yn fy amser hamdden byddwch fel arfer yn dod o hyd i mi yn rhedeg i fyny mynydd, ffordd berffaith i ddarganfod chwareli llechi Cymru!