Roger Davis

Roger Davis
Inigo Jones

Dwi wedi bod yn gweithio hefo llechen ers 1966, pan oni’n 19 mlwydd oed - 55 years yn ôl! Cerddais i mewn i le dol a derbyn swydd yn Wincilate Ltd yng Nghaernarfon. Yno ro’n i’n gweithio ar gynnyrch pensaernïol, yn llifio a polisho edges cerrig aelwyd, steps, silffoedd ffenestri, a thopiau meinciau labordai; gyrrwyd ambell i dop mainc i brifysgol King Abdulaziz yn Saudi Arabia! 

Pan gymrodd John dros Inigo Jones yn 1980, Gofynnwyd i mi os hoffwn ddod i redeg y busnes o ddydd i ddydd iddo.  Roedd y cwmni’n gwneud eitemau pensaernïol, a hefyd crefftau a oedd yn cael eu gwerthu o’r safle ac o siopau eraill.  Lle mae'r caffi heddiw roedd yna weithdy hefo peiriant a oedd wedi cael ei addasu i wneud uniadau miter mewn llechen. Roedd y peiriant yma yn galluogi i lechen gael ei ddefnyddio mewn ffordd fwy cynaliadwy i wneud eitemau fel; clociau, sylfeini lampau a darnau gwyddbwyll.

Eitemau eraill o lechen rwyf wedi eu cyflwyno yma fyddai; Topiau byrddau Coffi, Byrddau ‘Solitaire’, ‘Barometers’, meiciau gardd, ag ati. Rydym hefyd yn cynnig gneud eitemau i archeb. Enghreifftiau sy’n aros yn y cof yw archeb am Flychau llwch (poblogaidd yn eu hamser) rhai mawr 9” sgwâr i fynd i’r Iseldiroedd. Hefyd Cloc arbennig aeth i faes awyr yr Ynysoedd Erch a Phowlenni wedi’i turnio ar lathe i Halen Môn.

Mae ein cynnyrch ni wedi trafeilio yn bell a fina hefyd ar adegau. Buodd achlysur pan gafodd Wincilate gontract i atgyweirio cladding ar adeilad yn Llundain (roedd adeiladwyr lleol wedi methu!) ac roedd rhaid i mi fynd i lawr i ail osod miloedd o’r llechi ‘ma; tyllu a screwio bob un ohonyn nhw a ’i gosod ar adeilad 3 i 4 llawr - yng nghanol tywydd tanbaid!

Mae ffordd o weithio’r llechen wedi newid dipyn dros y blynyddoedd.  Da ni’n defnyddio lot ar Air tools bellach sy’n gwneud job bevelio neu ffeilio hefo llaw yn ddeng gwaith cynt!  Mae cyfrifiaduron hefyd wedi newid y gwaith ac ymestyn posibiliadau. Fel hefo enwau tai, pantograph oedd y teclyn defnyddi’r erstalwm ond ychydig ddewis oedd i’r math o ffont ar gael.  Bellach allwn gynnig sawl font wahannol a meintiau hefyd!